Kowydd i hyderu dyn na roddo i fryd ar y byd
1 mae aflwyddiant koddiant kawdd
2 mefl iddo am aflwyddawdd
3 sef yw hwnw byw o baidd
4 eiddig leidr iddew gwladaidd
5 ni adawdd ni bu nawdd nes
6 da im helw duw am holes
7 kyweithas hoywdras hydrum
8 kywaethog fawredog fum
9 I rwyf o wiw nwyf yn iach
10 wyth lid bwyll ith wlad bellach
13 na rodded vn kun keinsyth
14 fryd ar y byd fradwr byth
15 estron was os dyry /n/ wir
16 fud ollwng ef a dwyllir
17 hud yw golud a gelyn
18 brwydr dost yw a bradwr dyn
19 weithiav y daw draw draha
20 weithiau yn ddiav yn dda
21 mal trai ar ymylav traeth
22 gwedi llanw gwawd a lliniaeth
23 chweddid mwyalch wych eurddoeth
24 ynghelli las kathlblas koeth
25 [112] nid erddir marlbridd iddi
26 nid iraidd had nid ardd hi
27 ag nid oes edn fergoes fach
28 o druth oll i drythyllach
29 llawen wyf myn duw llywydd
30 yn llinio gwawd mewn llwyn gwydd
31 llawenaf breiniolaf bryd
32 ywr bystyniwr bost anwyd
33 wylo a wnaf brvddaf bryn
34 em olav ddeigr am loywddyn
35 ag nid gwyr mair loywair lud
36 ym wylo deigr am olud
37 am nad oes dewinfoes deg
38 gymroiaith wlad gymraeg
39 hyd na chaffwyf bwyf beniaith
40 dirfnig wr da er fyngwaith
41 ni chaf doed yw chyfoedi
42 dawn emyl haul dyn mal hi
dd ap Gwilim ai ka: