Error processing Anastasia style in file "viewImage.anv" for element "begin": can't read "httppost(tud)": no such element in array in line 1

Testun GolygedigHwsmonaeth CariadCaru y bûm, cyd curiwyf, A mwy neu ddeufwy ydd wyf; Cyfragod cariad tradof, Crupl y cur, croyw epil cof. Cadw a orwyf i'm ceudawd Cariad, twyllwr, cnöwr cnawd. Cynyddu, cwyn a wyddiad, Y mae i'm bron, mam y brad, Cynt no thyfiad, cread craff, Corsen o blanbren blaenbraff. Ceisio heiniar o garu Yn briod fyth i'm bryd fu. Gaeafar, mewn gwiw ofal, A wneddwyf, dolurnwyf dâl. Arddwyd y fron ddewrlon ddwys, Onengyr ddofn, yn ungwys. Y swch i'm calon y sydd A chwlltr y serch uwch elltydd. Ar y fron ddeau, glau glwyf, Hëu a llyfnu llifnwyf, Ac aradr cyweirgadr call I frynaru'r fron arall. A thrimis, befr ddewis bwyll, Gwanhwyndymp, gwayw anhundwyll, Cadeiriodd ynof ofid; Coetgae a'm lladd, cytgam llid. Ni chaf eithr sias o draserch, Ni chred neb brysurdeb serch Rhwng deiliadaeth, cawddfaeth cudd, Y marwfis a serch Morfudd. Calanmai rhag cael unmodd Seguryd i'm byd o'm bodd Caeais, hoywdrais ehudrwyf, Yn ei gylch, dyn unig wyf. Tra fu serch yr haelferch hon Trefn efrydd, trwy fy nwyfron Yn hoywdeg hydwf, ni'm dawr, Ac yn aeddfed gynyddfawr, Treiddiais, ni ohiriais hur, Trefnau medelau dolur. Trwm fu gyfrgoll yr hollyd, Trallod yw byth trulliad byd. Tröes y gwynt, bellynt bollt, O ddeau'r galon ddwyollt. A thywyllawdd, gawdd gordderch, Yn fy mhen ddwy seren serch: Llidiardau dagrau digrwyf, Llygaid, nofiaduriaid nwyf. Edrychasant, lifiant lun, Ar Forfudd araf eurfun, Lwferau dwfr lifeiriaint, Lafurus annawnus naint. Drwg fu ar sofl, gofl gofid, Drycin o orllewin llid, A daw prif wastadlaw prudd O ddwyrain wybr ar ddeurudd. Curwyd y fron hon heno  dwfr glas, edifar glo. Dan fy mron y mae'r gronllech, Ni ad fy nrem seldrem sech. Hidl ddeigr am ne Eigr ni ad, Heiniar lwgr, hun ar lygad. Oio gariad, had hydwyll, Gwedy'r boen, gwae di o'r bwyll, Na ellais, braisg oglais brad, Dy gywain rhwng dwy gawad. Syrthiodd y cariad mad maith; Somed fi am osymaith.