| Hwsmonaeth Cariad | |
| Caru y bûm, cyd curiwyf, | |
| A mwy neu ddeufwy ydd wyf; | |
| Cyfragod cariad tradof, | |
| 4 | Crupl y cur, croyw epil cof. |
| Cadw a orwyf i'm ceudawd | |
| Cariad, twyllwr, cnöwr cnawd. | |
| Cynyddu, cwyn a wyddiad, | |
| 8 | Y mae i'm bron, mam y brad, |
| Cynt no thyfiad, cread craff, | |
| Corsen o blanbren blaenbraff. | |
| Ceisio heiniar o garu | |
| 12 | Yn briod fyth i'm bryd fu. |
| Gaeafar, mewn gwiw ofal, | |
| A wneddwyf, dolurnwyf dâl. | |
| Arddwyd y fron ddewrlon ddwys, | |
| 16 | Onengyr ddofn, yn ungwys. |
| Y swch i'm calon y sydd | |
| A chwlltr y serch uwch elltydd. | |
| Ar y fron ddeau, glau glwyf, | |
| 20 | Hëu a llyfnu llifnwyf, |
| Ac aradr cyweirgadr call | |
| I frynaru'r fron arall. | |
| A thrimis, befr ddewis bwyll, | |
| 24 | Gwanhwyndymp, gwayw anhundwyll, |
| Cadeiriodd ynof ofid; | |
| Coetgae a'm lladd, cytgam llid. | |
| Ni chaf eithr sias o draserch, | |
| 28 | Ni chred neb brysurdeb serch |
| Rhwng deiliadaeth, cawddfaeth cudd, | |
| Y marwfis a serch Morfudd. | |
| Calanmai rhag cael unmodd | |
| 32 | Seguryd i'm byd o'm bodd |
| Caeais, hoywdrais ehudrwyf, | |
| Yn ei gylch, dyn unig wyf. | |
| Tra fu serch yr haelferch hon | |
| 36 | Trefn efrydd, trwy fy nwyfron |
| Yn hoywdeg hydwf, ni'm dawr, | |
| Ac yn aeddfed gynyddfawr, | |
| Treiddiais, ni ohiriais hur, | |
| 40 | Trefnau medelau dolur. |
| Trwm fu gyfrgoll yr hollyd, | |
| Trallod yw byth trulliad byd. | |
| Tröes y gwynt, bellynt bollt, | |
| 44 | O ddeau'r galon ddwyollt. |
| A thywyllawdd, gawdd gordderch, | |
| Yn fy mhen ddwy seren serch: | |
| Llidiardau dagrau digrwyf, | |
| 48 | Llygaid, nofiaduriaid nwyf. |
| Edrychasant, lifiant lun, | |
| Ar Forfudd araf eurfun, | |
| Lwferau dwfr lifeiriaint, | |
| 52 | Lafurus annawnus naint. |
| Drwg fu ar sofl, gofl gofid, | |
| Drycin o orllewin llid, | |
| A daw prif wastadlaw prudd | |
| 56 | O ddwyrain wybr ar ddeurudd. |
| Curwyd y fron hon heno | |
| Â dwfr glas, edifar glo. | |
| Dan fy mron y mae'r gronllech, | |
| 60 | Ni ad fy nrem seldrem sech. |
| Hidl ddeigr am ne Eigr ni ad, | |
| Heiniar lwgr, hun ar lygad. | |
| Oio gariad, had hydwyll, | |
| 64 | Gwedy'r boen, gwae di o'r bwyll, |
| Na ellais, braisg oglais brad, | |
| Dy gywain rhwng dwy gawad. | |
| Syrthiodd y cariad mad maith; | |
| 68 | Somed fi am osymaith. |