Hwsmonaeth Cariad
Büm yn caru, er fy mod yn nychu,
ac rwyf [yn caru]'n fwy neu'n ddwywaith yn fwy [yn awr];
gwarchod cariad mwyn iawn,
4 crupl y boen, ffrwyth croyw [y] cof.
Cadw cariad a wneuthum yn fy mynwes,
twyllwr, cnöwr cnawd.
Cynyddu (gwyddai [beth yw] cwyn)
8 y mae yn fy mron (mam y brad)
yn gynt na thyfiad (creadigaeth graff)
brigyn o goeden blanedig braff ei brig.
Fy mryd fu ceisio [cael] cnwd o garu
12 yn briodol [ac] yn barhaol.
Aredig yn y gaeaf a wneuthum (gyda gofal addas),
taliad o nwyf dolurus.
Arddwyd y fron lawen, ddiofn a dwys
16 ([ag] ergyd ddofn offeryn o bren onn) yn un cwys.
Mae'r swch yn fy nghalon
ac [mae] cwlltr y serch uwch elltydd.
Ar y fron dde (clwyf sydyn)
20 hau a llyfnu['r tir yn] llifeiriol ei nwyf,
ac aradr gwych, cadarn a doeth
i fraenaru'r fron arall.
Ac [ymhen] tri mis (synnwyr [sy'n esgor ar] ddewis gwych)
24 adeg y gwanwyn (poen twyll di-gwsg),
gwreiddiodd gofid ynof;
cae sy'n fy lladd, cellwair llid.
Ni chaf ond trafferth oherwydd serch mawr,
28 ni chred neb mor brysur yw serch
rhwng tenantiaeth (magwraeth ddicllon gudd)
Ionawr a serch Morfudd.
Ar Galan Mai, rhag [imi] gael egwyl mewn unrhyw ffordd
32 yn fy mywyd er fy modd fy hun,
codais ffin (trais bywiog balchder ffôl)
o'i amgylch, dyn unig wyf.
Tra fu serch y ferch hael hon
36 (cyflwr gwr methedig) trwy fy nwyfron
yn fywiog, hardd a ffyniannus (ni waeth gennyf am hynny)
ac yn aeddfed o doreithiog,
euthum yma ac acw (ni oedais cyn [talu] cyflog)
40 [ynglyn â'r] trefniadau [ar gyfer] mintai o
fedelwyr poen.
Trist fu'r colli'r holl yd yn llwyr,
bydd tywalltwr y byd bob amser yn drallod.
Troes y gwynt (taith faith bollt [o fellt])
44 o ochr dde'r galon [sydd] wedi ei hollti'n ddwy.
A thywyllodd (dicter cariadferch)
dwy seren serch yn fy mhen:
llifddorau dagrau'n llifo'n chwerw,
48 llygaid, nofwyr nwyf.
Edrychasant ([â] golwg llifeiriol)
ar Forfudd, ferch wych a mwyn,
simneiau llifeiriant o ddwr,
52 nentydd poenus ac anffodus.
Drwg fu ar sofl (cofleidiad gofid)
[ddioddef] drycin o lid y gorllewin,
a daw glaw mawr cyson a thrist
56 o ddwyrain yr wybr ar ddwy foch.
Curwyd y fron hon heno
â dwr glas, diweddglo [yr wyf yn] edifar [amdano].
Mae'r croniad o ofid dan fy mron,
60 ni ad fy llygaid sypyn sych o yd.
Ni chaniatâ dagrau hidl am [ferch â] gwedd Eigr
(cnwd pydredig) gwsg ar lygad.
O! gariad (had twyllodrus),
64 wedi'r boen, gwae di oherwydd y synnwyr,
na ellais (clwyf mawr brad)
dy gywain rhwng dwy gawod.
Syrthiodd y cariad da hirfaith,
68 twyllwyd fi am luniaeth.