| Hwsmonaeth Cariad | |
| Büm yn caru, er fy mod yn nychu, | |
| ac rwyf [yn caru]'n fwy neu'n ddwywaith yn fwy [yn awr]; | |
| gwarchod cariad mwyn iawn, | |
| 4 | crupl y boen, ffrwyth croyw [y] cof. |
| Cadw cariad a wneuthum yn fy mynwes, | |
| twyllwr, cnöwr cnawd. | |
| Cynyddu (gwyddai [beth yw] cwyn) | |
| 8 | y mae yn fy mron (mam y brad) |
| yn gynt na thyfiad (creadigaeth graff) | |
| brigyn o goeden blanedig braff ei brig. | |
| Fy mryd fu ceisio [cael] cnwd o garu | |
| 12 | yn briodol [ac] yn barhaol. |
| Aredig yn y gaeaf a wneuthum (gyda gofal addas), | |
| taliad o nwyf dolurus. | |
| Arddwyd y fron lawen, ddiofn a dwys | |
| 16 | ([ag] ergyd ddofn offeryn o bren onn) yn un cwys. |
| Mae'r swch yn fy nghalon | |
| ac [mae] cwlltr y serch uwch elltydd. | |
| Ar y fron dde (clwyf sydyn) | |
| 20 | hau a llyfnu['r tir yn] llifeiriol ei nwyf, |
| ac aradr gwych, cadarn a doeth | |
| i fraenaru'r fron arall. | |
| Ac [ymhen] tri mis (synnwyr [sy'n esgor ar] ddewis gwych) | |
| 24 | adeg y gwanwyn (poen twyll di-gwsg), |
| gwreiddiodd gofid ynof; | |
| cae sy'n fy lladd, cellwair llid. | |
| Ni chaf ond trafferth oherwydd serch mawr, | |
| 28 | ni chred neb mor brysur yw serch |
| rhwng tenantiaeth (magwraeth ddicllon gudd) | |
| Ionawr a serch Morfudd. | |
| Ar Galan Mai, rhag [imi] gael egwyl mewn unrhyw ffordd | |
| 32 | yn fy mywyd er fy modd fy hun, |
| codais ffin (trais bywiog balchder ffôl) | |
| o'i amgylch, dyn unig wyf. | |
| Tra fu serch y ferch hael hon | |
| 36 | (cyflwr gŵr methedig) trwy fy nwyfron |
| yn fywiog, hardd a ffyniannus (ni waeth gennyf am hynny) | |
| ac yn aeddfed o doreithiog, | |
| euthum yma ac acw (ni oedais cyn [talu] cyflog) | |
| 40 | [ynglŷn â'r] trefniadau [ar gyfer] mintai o fedelwyr poen. |
| Trist fu'r colli'r holl ŷd yn llwyr, | |
| bydd tywalltwr y byd bob amser yn drallod. | |
| Troes y gwynt (taith faith bollt [o fellt]) | |
| 44 | o ochr dde'r galon [sydd] wedi ei hollti'n ddwy. |
| A thywyllodd (dicter cariadferch) | |
| dwy seren serch yn fy mhen: | |
| llifddorau dagrau'n llifo'n chwerw, | |
| 48 | llygaid, nofwyr nwyf. |
| Edrychasant ([â] golwg llifeiriol) | |
| ar Forfudd, ferch wych a mwyn, | |
| simneiau llifeiriant o ddŵr, | |
| 52 | nentydd poenus ac anffodus. |
| Drwg fu ar sofl (cofleidiad gofid) | |
| [ddioddef] drycin o lid y gorllewin, | |
| a daw glaw mawr cyson a thrist | |
| 56 | o ddwyrain yr wybr ar ddwy foch. |
| Curwyd y fron hon heno | |
| â dŵr glas, diweddglo [yr wyf yn] edifar [amdano]. | |
| Mae'r croniad o ofid dan fy mron, | |
| 60 | ni ad fy llygaid sypyn sych o ŷd. |
| Ni chaniatâ dagrau hidl am [ferch â] gwedd Eigr | |
| (cnwd pydredig) gwsg ar lygad. | |
| O! gariad (had twyllodrus), | |
| 64 | wedi'r boen, gwae di oherwydd y synnwyr, |
| na ellais (clwyf mawr brad) | |
| dy gywain rhwng dwy gawod. | |
| Syrthiodd y cariad da hirfaith, | |
| 68 | twyllwyd fi am luniaeth. |