Nodiadau: 8 - Moliant Hywel, Deon Bangor

Fersiwn hwylus i

GDG 15

Awdl foliant yn y dull traddodiadol yw hon i Ddeon Bangor, gŵr o'r enw Hywel a chanddo gysylltiad â Môn yn ôl tystiolaeth y gerdd. Ni roddir teitl i'r awdl yn y llawysgrif gynharaf, sef Pen 51, ond yn y rhan fwyaf o'r copïau fe'i disgrifir fel awdl i Hywel ap Tudur ab Ednyfed Fychan. (Ceir teitl rhyfedd o gyfeiliornus yn LlGC 6209: Owdwl foliant i Howel Deon Bangor am achub Dafydd ap Gwilim odd i wrth y Bwa bach ai blaid.) Canfu Thomas Parry fod dau glerigwr o'r enw Hywel ap Goronwy o Fôn yn dal swyddi yn esgobaeth Bangor yn yr un blynyddoedd, gw. GDG xxxviii. Y naill oedd Hywel ap Goronwy ap Tudur Hen ap Goronwy ab Ednyfed Fychan, un o Duduriaid Penmynydd. Fe'i molwyd gan Ruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed, GSRh rhif 10, a'i farwnadu gan Ruffudd ap Maredudd ap Dafydd, GGMD i, rhif 1. Dengys dogfennau sy'n dyddio o 1340 a 1345 ei fod yn glerigwr erbyn y blynyddoedd hynny, ac yr oedd yn Archddiacon Môn yn 1357, swydd a ddaliodd hyd ei farwolaeth yn 1366. Crynhoir yr hyn sy'n hysbys amdano yn ib. 12–14. Fe all mai ato ef y cyfeirir yn nheitlau'r llawysgrifau, ac os felly fe all mai amlygrwydd ei gysylltiad â Môn sy'n cyfrif am hynny. Yn ôl cofnod o'r ddeunawfed ganrif bu'n Ganon, yn Archddiacon (1357), yn Ddeon (1359), ac yn Esgob Bangor (1371–2), ond y mae'n dra amheus a ddaliodd yr holl swyddi hyn a'r tebyg yw fod dryswch wedi digwydd rhyngddo ef a chlerigwr arall o'r un enw; gw. A.H. Dodd a J. Gwynn Williams (gol.), Aspects of Welsh History: Selected Papers of the Late Glyn Roberts (Cardiff, 1969), 192.

Yr oedd Hywel ap Goronwy arall yn Ddeon Bangor oddeutu 1350, gw. ib. n7, gŵr o Fôn eto, a hwnnw, yn ôl Thomas Parry, yw gwrthrych yr awdl hon. Fe'i dyrchafwyd yn esgob yn 1370 a bu farw y flwyddyn ganlynol yn Rhufain. Mae'n fwy na thebyg mai iddo ef y canwyd yr awdl. Awgryma hil Brân (ll. 9) fod yr Hywel hwn yn un o ddisgynyddion Llywarch ap Brân ac yn perthyn, felly, i un o dri llwyth Môn. Tybed nad oedd yn fab (nas nodir yn yr achau am na fu plant iddo) i Oronwy ap Maredudd o Dyddyn Adda? Gw. WG 1 'Llywarch ap Brân' 2. Yr oedd Adles, gwraig Goronwy, yn ferch i Oronwy ab Ednyfed Fychan, gw. ib. 'Marchudd' 11.

Duwioldeb Hywel a folir yn y ddau englyn agoriadol, a hynny drwy ei gymharu â nifer o saint, dau ohonynt, sef Cybi ac Elien, yn dwyn cysylltiad â Môn. Cyfeirir yn y trydydd englyn at ei allu fel cerddor yng Nghadeirlan Bangor. Yn yr wyth pennill ar fesur gwawdodyn byr clodforir lletygarwch Hywel a'i nawdd digrintach i'w fardd. Fe'i darlunnir fel noddwr diwylliedig sy'n ymhel â'r gelfyddyd farddol, gan bwysleisio'i ragoriaeth yn llau. 31–8 â'r fformwla Nid un ... â ... Cysylltir yr englynion ynghyd â chyrch–gymeriad. Ceir cyrch–gymeriad hefyd rhwng yr englyn olaf a'r gyfres o wawdodynnau, ac mae diwedd yr awdl yn cyrchu'r dechrau. Cenir yr wyth gwawdodyn ar y cymeriad llythrennol n-.

Ysgrifennwyd testun Pen 51 gan y bardd Gwilym Tew o Forgannwg oddeutu 1460–80. Collwyd yr englynion ar ddechrau'r awdl yn y llawysgrif hon, ac mae rhannau eraill o'r gerdd yn annarllenadwy neu'n anodd eu darllen bellach. Yr un testun sylfaenol a geir yn y llawysgrifau diweddarach, heb lawer o amrywiadau.

Cynghanedd: croes 8 ll. (18%), cynghanedd wreiddgoll rhwng gair cyrch ac ail linell yr englyn cyntaf; traws 6 ll. (14%); sain 28 ll. (64%), sain bengoll yn ll. 15, cyfatebiaeth anghyflawn dan yr acen yn llau 13, 27, 28 a 39; llusg 2 l. (4%).

1. canonswydd    Yr ystyr 'swyddog eglwysig' sy'n gweddu orau i canon yn y fan hon ac yn ll. 43 isod. I'r 16g y perthyn yr enghraifft gynharaf o'r ystyr honno a ddyfynnir yn GPC 417 d.g. canon2 – ceir canonwr o gyfnod cynnar – ond mae'r ystyr yn ddigon cyffredin yn Saesneg yn y 14g, gw. OED ar–lein d.g. canon, n2. Yr ystyr fwyaf cyffredin yw'r ystyr gyffredinol 'rheol, cyfraith', gw. 75.2n, 123.46n, ond gellid yr ystyr wreiddiol 'cyfraith neu ddeddf Eglwysig' yma, gw. GPC 416 d.g. canon1. Gw. hefyd GDG t. 453. Rhennir y geiriau'n wahanol gan Thomas Parry: canon swydd un sud. Digwydd y ffurf gyfansawdd unsud yn 78.9.

Mordëyrn    Nawddsant Nantglyn yn sir Ddinbych, gw. LBS iii, 502–4, WCD 483. Yn ôl cywydd a ganwyd iddo gan Ddafydd ap Llywelyn ap Madog tua diwedd y 15g, yr oedd o'r un waed â Dewi Sant, gw. llsgr. G 3, 73r. Efallai mai dyna pam y cyplysir y ddau yn yr awdl hon. O gofio am gysylltiad Hywel ap Goronwy â Môn, diddorol yw disgrifiad Tudur Aled o un o'i noddwyr fel Mordëyrn Môn, GTA LXXV.98.

2. gwlad yr hud   Dyfed, gw. 6.2n, 21n. Cywasger Dewi yng yn ddeusill er mwyn hyd y llinell.

3. Cybi   Cymh. 52.39, 97.27. Ar Gybi Sant, a roes ei enw i sawl man yng Nghymru ond a gysylltir yn bennaf â Môn, gw. LBS ii, 202–15. Yn ôl un fersiwn o Fonedd y Saint yr oedd yn gefnder i Ddewi Sant, gw. WCD 159–61.

4. cydymddeithion    Yn Ll 122 y digwydd yr union ffurf hon. Ceir amrywiadau arni yn y llsgrau eraill, e.e. Pen 97 a LlGC 6209 Cymdeithion Seimon a Sud. Mae gweddill y llsgrau o blaid hepgor y cysylltair.

Simon, Sud   Dau o ddisgyblion Crist. Dethlir gŵyl Simon a Sud, sef Jwdas brawd Iago'r Lleiaf, ar 28 Hydref. Fe'u henwir ynghyd gan Iolo Goch, GIG XXVII.29–30. Cymh. cywydd Dafydd i Luniau Crist a'r Apostolion, 4.28, 37, a gw. 4.37n ar yr enw Sud.

5. ffyniwyd    Dyma ddarlleniad bron y cwbl o'r llsgrau; LlGC 6209 ffynnwyd. Digwydd darlleniad GDG, sef ffiniwyd, yn Ll 133 sy'n gopi o BL 14890 lle ceir ffyniwyd. Mae 'bendithio' yn ystyr addas i'r ferf ffynio ('ffynnu') yma, gw. GPC 1334.

6. Y Gwinau Dau Freuddwyd    Enw gorhendad Llywelyn Sant o'r Trallwng yn ôl Bonedd y Saint, gw. Bartrum, EWGT 59, GDG t. 454, LBS iv, 370–2, WCD 327. Dywed Iolo Goch fod Owain Glyndŵr yn disgyn o Hil y Gwinau Dau Freuddwyd (GIG VIII.31).

7. Sain Silin   Nawddsant Llansilin yn sir Ddinbych ymhlith mannau eraill, gw. LBS iv, 203–6, WCD 588–9.

8. Saint Elien   Nawddsant Llaneilian ym Môn, gw. LBS ii, 435–44, WCD 240. Elian yw'r ffurf gan Iolo Goch yn GIG XI.53, XXXV.46.

9. hil Brân    Gw. y nodyn cefndir uchod. Digwydd yr un ymadrodd, hil Brân, mewn cywydd gan Lewys Môn i aelod arall o'r un tylwyth, GLM XXVII.17. Cymh. ib. XXIX.17–18 Alarch gwyn o Lywarch gyff, / a Brân, hengoed brenhingyff. Ar linach Llywarch ap Brân gw. GSDT 8.19–20n; J. Beverley Smith (gol.), Medieval Welsh Society: Selected Essays by T. Jones Pierce (Cardiff, 1972), 260.

10. gown    Y ffurf hon, yn hytrach na gŵn, a rydd y rhan fwyaf o'r llsgrau.

11.    Cyfeiria Gruffudd Gryg a Dafydd at organ Cadeirlan Bangor yn yr Ymryson, 25.35–40 (gw. 35n), 26.15–20.

12. atynt    'Hynt ddrwg, afrwyddineb, trybini' (ad- + hynt), GPC 1349 d.g. atynt2. Dyma'r unig enghraifft.

13. gwenithaidd    Gan dybio, mae'n debyg, mai 'tebyg i wenith', h.y. 'pur, rhagorol' yw'r ystyr, diwygiodd Thomas Parry Ni chân y llsgrau i'r gystrawen gadarnhaol Neu chân. O dan yr ystyr honno y dyfynnir y llinell yn GPC 1637 d.g. gwenithaidd1, ynghyd ag enghreifftiau o'r 15g ymlaen. O gymryd mai ffurf ar gwenieithaidd sydd yma nid oes raid diwygio, er mai diweddarach yw'r enghreifftiau a restrir yn ib. 1636 d.g. gwenieithaidd, gwenithaidd (Thomas Wiliems biau'r enghraifft gynharaf, 1604–7). Byddai'r naill ystyr neu'r llall yn cyd–fynd ag ergyd y llinell ganlynol, sef bod angen i'r gân fod yn deilwng o'r gwrthrych.

14. lliniodr ŵyr   Yn Ystorya de Carolo Magno yn Llyfr Coch Hergest dywedir am y sawl nad yw'n hyddysg yng nghelfyddyd cerddoriaeth: Namyn ual dyn a dynno ar vemrwnn llinyeu wrth linyawdyr gyrgam, kyn agkywreinyet a hynny yd ellwg ynteu y lef (YCM 168).

17. didrais dwydraidd    Cymh. 83.37 ddidrais ddwydrin. Dyma'r unig enghraifft o dwydraidd, gw. GPC 1107: '?Mynych ymweliad (yn llythr. dau ymweliad); ?yn treiddio drwy ormes', a'r ail ystyr yn seiliedig ar awgrym Thomas Parry mai'r elfen dwy a welir yn gorddwy sydd yma, gw. GDG t. 454. Ymddengys yr ystyr gyntaf yn fwy tebygol, er mai enw gwrywaidd yw traidd fel rheol. Posibilrwydd arall, fel yr awgryma Parry, yw dwy 'duw' – 'ymweliad duwiol', felly?

18. camruad  Cam + rhuad 'rhu, gwaedd'; cymh. camryfyg (28.19). Awgryma Parry, GDG t. 454, y gall fod yn ffurf ar camrwyad, cymh. camrwy 'trais'.

19. o brudd    'O ddifri', cymh. 49.42, 74.53. GDG Nis erfyn, obrudd, ...

20. iôr    Gan fod nêr yn digwydd yn ll. 22, dilynir Pen 51 a rydd ior ner; nêr a geir yn y llsgrau eraill. Gallai nêr fod yn ymgais i drwsio n wreiddgoll mewn cynghanedd groes, ond mwy naturiol yw darllen y llinell fel cynghanedd sain.

21. hoywfedd hyfaidd   Cymh. GIG XIX.23 cwrw hyfaidd; XXIII.29 medd hyfaidd.

22. dyeingl    3 un. pres. dehongli neu deongl. Cymh. GIG XX.51 gŵr hen a'i dyeingl.

23. cyrraidd    Yn yr ystyr 'ennill'; cymh. GDC 2.24 mawl a gyrraedd 'y mae'n ennill clod' (Dafydd y Coed).

26. neddair    'Llaw', yn drosiadol am noddwr. Gellid ei ddeall yn drosiadol yn 129.45 Maddeuaint Mair, neddair nawdd. Gellid yn neddair ffyrf-Fair, ond ymddengys hynny'n annhebygol. Dehonglir y llinell yn wahanol gan Thomas Parry: Neud bardd, ei neddair, ffyrfair, ffurfaidd 'neud bardd ffyrfair, ffurfaidd ei neddair (llaw)', GDG t. 454.

27. henẃraidd   'Tebyg i hen ŵr, musgrell', GPC 1853. Hon yw'r unig enghraifft. Dyma ddarlleniad Pen 51 a Ll 122; ŵr henaidd a rydd y llsgrau eraill (ymgais i 'safoni''r gynghanedd?), ac eithrio LlGC 6209 nid henaidd.

29. glewraidd   Glew + rhaidd 'gwayw, picell', cymh. glewddur, glewlaif etc. GDG glew-ẃraidd, ond rhydd hynny sillaf yn ormod.

30. dawn    Mewn ystyr ffigurol, 'un â chyneddfau neu allu godidog (am bennaeth, arglwydd, &c.)', GPC 906.

31–2. Nid un gwalch ... / Ag yw cyw y dryw   Dywed Gruffudd Gryg wrth Ddafydd: Llew ydwyf rhwysg, llo ydwyd, / Cyw'r eryr wyf, cyw'r iâr wyd (27.53–4). Cymh. GGDT 13.5–6 Nid unwerth cywerth cyw iâr—ag eryr, / Gwrol frenin adar (dychan Trahaearn Brydydd Mawr i Gasnodyn). Am enghreifftiau pellach o'r topos gw. DGIA 64–5.

33. clerẃraidd    Ansoddair difrïol sy'n cyfeirio at y glêr iselradd. Cymh. y llinell Clerwriaidd fab ab ebwch mewn cerdd ddychan ddienw o Lyfr Coch Hergest (GPB 9.91). Dehonglir 33–4 yn wahanol gan Gwyn Thomas (2001, 32): 'The clear utt'rance of a wandering poet's not the same / As the way, in being amorous, of a man who's in a hurry'. Cymerir mai ystyr gadarnhaol sydd i ewybr, 'parod ei eiriau' neu 'croyw', cymh. ll. 16 uchod. Ceir cyferbyniad tebyg yn nychan Dafydd i'r clerwr Rhys Meigen, 31.21–2 cyd ceisiai—gyhwrdd / Ag ewybr nis gallai.

35. bryn    'Amlygrwydd' a thrwy estyniad, 'urddas', efallai, cymh. 101.5 bryn y dolur a gw. GDG tt. 454–5, GPC 339.

37. Nid un gwin ... â mynyddfaidd   Cymh. GDC 3.152 Yn ei lys winllyn ef ni fyn faidd (Dafydd y Coed); GC 11.9–12 Rhywiach id ymlid ... Maidd o gaul no medd o garn (dychan Casnodyn i Drahaearn Brydydd Mawr).

39. Bleddyn    Rhyw fardd diarhebol o sâl. Bleddyn Ddu Was y Cwd, efallai, bardd a chanddo gysylltiadau â Môn yr ymddengys ei fod yn canu mor gynnar â 1331, gw. trafodaeth R. Iestyn Daniel yn GBDd 1–4. Ceir ganddo englynion ymryson a dychan, ib. rhifau 7–14. Ar gyfeiriadau yn y farddoniaeth at fardd o'r enw Bleddyn, gw. ib. 4–8. Cyfeiria Dafydd yn gellweirus at Fleddyn yn ei ymryson â Gruffudd Gryg, 30.25–8 Haws oedd yng Ngwynedd weddu / Tad i Fleddyn o'r dyn du, / Nag efô, hwylio heli, / O dud Môn yn dad i mi. Cymh. hefyd un o farwnadau Gruffudd Gryg i Ddafydd, GDG t. 428 Cywraint y gwnaeth Mab maeth Mair, / Dan gôr gwydr, dwyn gŵr gwawdair, / A gado Bleddyn gidwm, / Fforddrych truan, cryman crwm. Efallai i Ddafydd ymryson â'r bardd hwn fel y bu'n ymryson, yn ôl pob tebyg, â Rhys Meigen, gw. nodyn cefndir rhif 31.

40. eddylwas    Darlleniad y rhan fwyaf o'r llsgrau, gan gynnwys Pen 51, yw eiddilwas, ond rhydd hynny ystyr anaddas. Ar sail eddelwas M 146 a Pen 97 derbynnir diwygiad Thomas Parry: eddyl ('bwriad, amcan') + gwas 'dyn amcanus, cynllwyngar, medrus', gw. GDG t. 455. Derbynnir yr awgrym yn GPC 1169. Yn yr un modd, trodd y ffurf ddieithr eddyl yn eiddil yn y llsgrau mewn cerddi eraill, gw. 29.1n a 60.1n. Posibilrwydd llai argyhoeddiadol yw eiddolwas, gw. GPC 1187: 'eidol1, eidiol, ? eidd(i)ol ... Gwaedd, cri, dolef, bloedd, moliant'.

Cynddelwaidd    Yn debyg i Gynddelw, sef Cynddelw Brydydd Mawr a ganai yn llysoedd brenhinol Gwynedd a Phowys yn ail hanner y 12g, yr uchaf ei barch o blith Beirdd y Tywysogion. Cynddelwaidd ei weddaidd wawd, medd Gruffudd Gryg am Ddafydd yn un o'i farwnadau iddo, GDG t. 428.

42. Rhydderchaidd   Yn debyg i Rydderch Hael, sef un o Dri Hael Ynys Prydain, gw. TYP3 493–5. Cymh. 13.14, 16.19, 155.3.

43. nwysgel    Er ei bod yn anodd darllen y pedair llythyren olaf, dyma, fe ymddengys, yw darlleniad Pen 51, ac fe'i cefnogir gan M 146 a Ba (M) 5. Cymerir mai ffurf ar noes 'sŵn, llef', o'r Saesneg noise, yw'r elfen gyntaf; ar ymgyfnewid oe / wy, e.e. oeth / wyth, gw. GMW 4. Cymh. GPB 6.78 Noes dylwyth trangiedig (Hywel Ystorm). Gw. GPC 2592 am enghreifftiau diweddarach o noes, a sylwer yn arbennig ar enghraifft o'r 16g: A naws gŵyn oerchwedl a noes gan eirchiaid. Cymh. hefyd CRhC 231 llawer mewn eisie yn noysi bob dydd. A chymryd mai bôn y ferf celu yw'r ail elfen, gellir awgrymu mai'r ystyr yw fod Hywel yn celu neu'n rhoi taw ar lefain eirchiaid. Ymhlith yr ystyron eraill yn Saesneg yn y 14g yr oedd 'cynnen, ffrae', gw. OED ar–lein d.g. noise, a byddai hynny'n gweddu yma. Ar wahân i dystiolaeth y llsgrau cynharaf, mae'r cymeriad llythrennol n- o blaid y ffurf hon. Ceir amrywiaeth o ffurfiau yn y llsgrau: Pen 97 mwyscel, LlGC 6209 a Ll 122 nwyfgel (ffrwyth camddarllen s fel f?). Mae darlleniad GDG, sef dwysgel, yn seiliedig ar ddarlleniad Lewis Morris yn BM 53, sy'n gopi o BL 14890 lle nad oes modd darllen y llythyren gyntaf (Mwysgel a geir yn Ll 133 sydd hefyd yn gopi o BL 14890). Awgryma Thomas Parry, GDG t. 455, ddeall dwys + cêl, gan gymharu GP 63.26 Dwysgel bryd.