â â â Ddoe
1â â â Dyddgwaith dybech fu echdoe,
2â â â Da fu Dduw â Dafydd ddoe.
3â â â Nid oedd unrhyw, deddf anrheg,
4â â â Y dydd echdoe â doe deg.
5â â â Drwg oedd fod, rhywnod rhynoeth,
6â â â Echdoe yn frawd i ddoe ddoeth.
7â â â O Fair wychdeg fawr echdoe,
8â â â A fydd y rhyw ddydd oedd ddoe?
9â â â O Dduw erfai ddiweirfoes,
10â â â A ddaw i mi ddoe i'm oes?
11â â â Rhoddi, yn drech nog echdoe,
12â â â Ydd wyf gan hawddfyd i ddoe.
13â â â Doe dialawdd, cawdd cuddnwyf,
14â â â Dafydd hen o newydd nwyf.
15â â â Gwedy fy nghlwyf, ydd wyf ddall,
16â â â Gwydn wyf fal gwden afall
17â â â A blyg yn hawdd, gawdd gyhwrdd,
18â â â Ac ni thyr yn ôl gyr gwrdd.
19â â â Mae ynof, gwangof gwyngen,
20â â â Enaid cath anwydog hen;
21â â â Briwer, curer corf lwydwydd,
22â â â Bo a fo arnai, byw fydd.
23â â â Pedestr hwyr wyf, cawddnwyf call,
24â â â Ar hyd erw lle rhed arall,
25â â â A meistrawl ar wawl wiwgamp,
26â â â Er gwst, lle bo gorau'r gamp.
27â â â Gwell ymhell, ger gwayw llifnwyf,
28â â â Pwyll nog aur, pellennig wyf.
29â â â O Dduw, ai grym ym amwyll?
30â â â A wddant hwy pwy yw Pwyll?
31â â â Trech llafur, nofiadur nwyf,
32â â â No direidi, dewr ydwyf.
33â â â Da y gwnâi Forfudd â'i dyn
34â â â O'r diwedd, hoen eiry dywyn.
35â â â Iawn y gwneuthum ei chanmawl,
36â â â On'd oedd iawn, f'enaid i ddiawl!
37â â â Nos da i'r ferch anerchglaer,
38â â â A dydd da am nad oedd daer.
39â â â Hi a orfuum haeach,
40â â â Aha! wraig y Bwa Bach!