GDG 131
Cywair buddugoliaethus sydd i'r cywydd hwn i Forfudd. Mae gorfoledd Dafydd yn byrlymu drwy'r chwe chwpled agoriadol sy'n gwrthgyferbynnu'n chwareus gyffredinedd echdoe a llawenydd ddoe, gan ddwyn i gof agoriad cywydd y 'Cusan' (83). Heb ddatgelu achos ei orfoledd, try llais y bardd yn herfeiddiol wrth iddo fynnu bod bywyd yn ei hen esgyrn blin o hyd er gwaethaf clwyfau'r gorffennol. Rhydd ei ddelweddau rym i'w haeriad: mae'n wydn fel gwialen sy'n plygu heb dorri; mae ynddo enaid cath sy'n goroesi pob camdriniaeth; ac er arafed ei gam fe ddeil yn bencampwr o hyd. Â rhagddo i ategu ei ddadl â dwy ddihareb sy'n pwysleisio'i bwyll a'i ddyfalbarhad, ac yna, ar ddiwedd y cywydd, cawn wybod beth a barodd y tro ar fyd. Wedi iddo ganlyn Morfudd a'i moli cyhyd, a hithau'n briod, o'r diwedd rhoes achos iddo obeithio. Bellach, meddai, fe gafodd ei ddymuniad, ac mae ei afiaith yn cyrraedd uchafbwynt yn ebychiad buddugoliaethus y llinell glo: Aha! wraig y Bwa Bach! Adlewyrchir yr argraff o hyder herfeiddiol gan symudiad cypledol y cywydd; yn 16–17 yn unig y mae'r ystyr yn goferu o'r naill gwpled i'r llall.
Ceir tri fersiwn o'r cywydd yn y llsgrau. Ceir testun cynnar yn llaw Gwilym Tew yn Pen 54 (c. 1480), lle y mae 3–4 a 5–6 o chwith o'u cymharu â'r ddau fersiwn arall a 37–8 yn eisiau. Yn nhestun Ll 6 cadwyd dau gwpled (9–12) nas ceir yn y fersiynau eraill (fe'u hychwanegwyd ar ymyl y ddalen yn Ll 14 a Ll 186), ac mae 33–6 a'r cwpled clo yn eisiau. Ceir y trydydd fersiwn mewn llsgrau sy'n gysylltiedig â'r Vetustus, sef Pen 49, H 26, G 3, Ll 186, Bl f 3, CM 129 ac C 7, ac yn LlGC 560B, M 212, Ll 14 a'r copïau sy'n deillio ohonynt. Ac eithrio 3–6, yr un yw trefn y llinellau yn y tri fersiwn, ac ar wahân i rai o'r sangiadau prin yw'r gwahaniaethau arwyddocaol. Hyd y gellir fe ddilynir y testun cynharaf, sy'n destun da, gan bwyso ar y llsgrau eraill lle bo eu darlleniadau hwy yn rhagori.
Cynghanedd: croes 9 ll. (22.5%), traws 10 ll. (25%), sain 17 ll. (42.5%) a phedair yn bengoll, llusg 3 (7.5%), digynghanedd 1 (2.5%).
1–12. Ceir cyferbyniad tebyg rhwng heddiw a ddoe dros chwe chwpled yn 83.1–12.
1. dybech Y rhagddodiad cryfhaol dy- + pech 'pechod', ar batrwm dyfrys, dychryn etc. Er na welwyd yr un enghraifft arall o'r ffurf, rhydd y diwygiad hwn ystyr fwy boddhaol na dibech y llsgrau, sef 'di-fai, dibechod'. Buasai'r ddwy ffurf yn debyg iawn i'r glust.
fu Cytuna Ll 6 â Pen 54. GDG oedd, gan ddilyn fersiwn y Vetustus.
3–6. Mae'r ddau gwpled o chwith yn Pen 54, yn wahanol i'r ddau fersiwn arall.
3. Ceir n wreiddgoll yn y llinell hon, ac mae'r f ledlafarog yn deddf heb ei hateb.
deddf anrheg Ll 6 ddwy anrec; Vetustus dydd anrheg. Cymh. e.e. y sangiad deddf cariad diddim yn 108.11.
5. rhywnod rhynoeth Er bod darlleniad Ll 6 hynod hynoeth yn tueddu i gefnogi hoywnod hynoeth fersiwn y Vetustus, rhydd sangiad Pen 54 well ystyr. Ystyr negyddol a ddisgwylid yng ngyd-destun y cwpled.
7. Llinell anodd ei dehongli, onid gŵyl Fair oedd echdoe.
8. Fersiwn y Vetustus yn unig a rydd ddarlleniad GDG A fydd rhyw ddydd â'r dydd doe?.
12. hawddfyd Yn yr ystyr 'bendith'. Cymh. 156.2 Hawdd fyd i heddiw a fydd (gw. nodyn), ac 83.1–2 Hawddamawr, ddeulawr ddilyth, / Haeddai fawl, i heddiw fyth. Cymh. hefyd gwpled agoriadol un o gywyddau serch Gruffudd Gryg, DGG LXXII.1–2 Hawddfyd amgen nog echdoe / I'r ddyn a welais i ddoe.
13. Cynghanedd sain bengoll.
GDG Doe y dialawdd (fel Pen 49), ond diau mai trisill yw dialawdd; cymh. e.e. 67.28 Dialaeth y famaeth fu.
cawdd cuddnwyf Darlleniad Pen 54; cymh. kawdd kydnwyf Ll 6. Ceir sangiad tebyg iawn yn 88.3 cawddnawdd cuddnwyf. Ailadroddus yw cawdd cawddnwyf y Vetustus, a cheir cawddnwyf yn ll. 23 isod.
17. Cynghanedd sain bengoll.
18. yn ôl 'Ar ôl', cymh. GDG. Diwygiad sy'n seiliedig ar yn ayl Pen 54 ac ar ol Ll 6. Vetustus er un.
19–22. Tybed nad oes yma adlais o'r hen goel am naw bywyd cath? Ni restrir enghraifft gynnar yn GPC 2555 d.g. naw1; rhestra OED d.g. nine enghreifftiau o'r 16g. ymlaen.
21. Cynghanedd sain bengoll.
corf lwydwydd Dilynir Pen 54 yma, gan gymryd mai llygriad o'r darlleniad anodd hwn yw cof lwydwydd y Vetustus a korff llwydwydd Ll 6 (a fabwysiadwyd yn GDG). Mwy tebygol yw'r llygriad corf > cof na corff > cof. Gwelir ymgais i gyflwyno cynghanedd sain gyflawn mewn rhai llsgrau, e.e. Ll 14 er cerydd, CM 129 côf cerydd. Cymerir mai corf yr ais a olygir, sef cledr y ddwyfron neu asen, gw. GPC 558, a drosir gan Ddafydd yn hen bren llwyd. Cymh. Gorau fu ef ar gorf ais yng nghywydd Iorwerth ab y Cyriog i ddiolch am gae, GGrG 5.44.
22. arnai Ffurf Cymraeg Canol ar arni, gw. GMW 58 a chymh. e.e. 38.44 rhad Duw arnai.
23. cawddnwyf call Cymh. y sangiad mau gawddnwyf yn 125.3.
25. Cynghanedd sain bengoll.
ar wawl wiwgamp Pen 54 a rydd y synnwyr gorau. Digwydd yr un gystrawen yn Ystoryaeu Seint Greal i, 59 ac ef a vu ryued ganthaw welet y gwraged mor veistrawl a hynny ar yr aniueilyeit gwylltyon creulawn. Ceir cynghanedd gyflawn yn y fersiynau eraill: Vetustus ar wawl walamp (G 3 a fawl wawlamp; Bl f 3 a Ll 186 ar fawl wawlamp, a'r olaf wedi ei ddiwygio'n wiwlamp – cymh. fawl wiwlamp ar ymyl y ddalen yn Ll 14). Yr hyn sydd yn Ll 6 yw arwawl wiwlamp. Ceir gwiwlamp yn odli â gamp yn 106.53–4 Aethost, wi o'r gost a'r gamp, / I'th wely, bryd wyth wiwlamp, a chymh. Gruffudd Gryg, DGG LXXII.3–4 Doe gwelais un deg wiwlamp, / Un dyn goeth yn dwyn y gamp (yn dilyn y cwpled a ddyfynnir yn 12n. uchod). Ond nid yw A meistrawl ar wawl wiwlamp, sef ar ferch ddisglair, yn gweddu cystal. Fel yn y cwpledi blaenorol, yr ergyd yw fod bywyd yn esgyrn y bardd o hyd.
26. er gwst Parodd yr ymadrodd hwn hefyd anhawster i'r copïwyr. ar gwst sydd yn Pen 54 (cymh. C 7 a LlGC 560B), ac ymddengys mai or gwst oedd yn y Vetustus, ond ni rydd yr un o'r rhain ystyr foddhaol. Nid oes modd darllen dechrau'r llinell yn Ll 6 [ ]r gwst. Fel y gwnaeth Thomas Parry, felly, mentrir er gwst 'er y boen' neu 'er y drafferth', sy'n cyd-fynd â'r darlun o wydnwch penderfynol Dafydd yn y llinellau blaenorol. Fe'i ceir gan Ruffudd Llwyd, GGLl 18.61–2 Na roed neb, cywirdeb call, / Er gwst, aur ar gost arall.
27–8. Gwell... pwyll nog aur Cofnodir y ddihareb yn y Llyfr Du o'r Waun (13g.), gw. B iii (1926–7), 23, ac yng nghasgliad diarhebion John Davies, Mallwyd yn D.
27. Cynghanedd draws bengoll.
ymhell H.y. o lawer, o bell ffordd, cymh. GDC 3.71–4 Gwell ymhell ... Yw no neb am win a nobl.
ger gwayw llifnwyf Cefnogir darlleniad Pen 54 gan Pen 49 a LlGC 560B, ond sylwer mai gaer gwayw lifnwyf / llifnwyf sydd ym mwyafrif y llsgrau, lle y mae gaer yn ffurf amrywiol ar ger. Dilynodd GDG Ll 6 gair gwiw llifnwyf.
28. Cymh. y disgrifiad o'r ceiliog bronfraith fel Pellennig, Pwyll ei annwyd (39.7), gw. nodyn. Ceir Pwyll yn enw priod yn ll. 30 isod.
30. gwddant Ffurf gyffredin ar y ferf mewn Cymraeg Canol, cymh. e.e. 122.53 wddam. Cyfeirir, efallai, at y sawl a fu'n amau dyfalbarhad Dafydd neu a fu'n feirniadol o'i berthynas â Morfudd.
Pwyll Yr enw cyffredin pwyll yn ôl GDG, ond yr enw priod sy'n gweddu. Yr ergyd, efallai, yw i Bwyll Pendefig Dyfed ddysgu doethineb ac amynedd erbyn diwedd cainc gyntaf y Mabinogi, lle bu'n llawn byrbwylltra (amwyll) wrth osod ei helgwn ar y carw a laddwyd gan Arawn ac yna ar ddechrau ei berthynas â Rhiannon. Dichon mai at Bwyll y cyfeirir yn 6.21 Pendefig, gwledig gwlad hud – is dwfn, ac yn 39.7 (gw. nodiadau).
31–2. Trech llafur ... No direidi Ceir y ddihareb yn MA2 859, sef copi Ieuan Fardd (1775), o gopi William Maurice, Llansilin (1675) o gasgliad John Davies, Mallwyd.
31. nofiadur nwyf Cymh. GDG 87.48 Llygaid, nofiaduriaid nwyf.
32. n wreiddgoll.
33. Da y gwnâi ... Dilynir Pen 54 (GDG Da fyddai Forfudd â'i dyn; Vetustus Da fyddai Forfudd i'w dyn). Fe'i hadleisir yn y cwpled nesaf, Iawn y gwneuthum ... . Ar y llaw arall, mae darlleniad y Vetustus yn adleisio ll. 2 Da fu Dduw â Dafydd ddoe. Sylwer bod fersiwn y Vetustus o'r cwpled hwn i'w gael hefyd ar ddechrau'r cywydd 'Llw Morfudd', 105.3–4.
35. Llinell ddigynghanedd.
36. f'enaid i ddiawl Pen 54 veneid i dduw, gan osgoi ysgrifennu'r gair diawl fel y gwneir yn yr un llsgr. yng nghywydd 'Merched Llanbadarn', wtyed i dduw, gw. 137.34n. Hepgorwyd y gair yn llwyr yn M 212 gan adael y llinell yn anghyflawn.
39–40. Digwydd y cwpled ar ddiwedd rhai copïau o 'Cystudd y Bardd' (103).
39. Darlleniad Pen 54 sydd fwyaf ystyrlon – cred Dafydd iddo gael y gorau ar Forfudd o'r diwedd. Vetustus Y hi a'm gorfydd haeach (Pen 49 ai hi ...).
40. Aha! Ebychiad sy'n cyfleu buddugoliaeth neu lawenydd yma, gw. GPC2 163 a chymh. ChO 16 Aha Jessu, mi a'th dwylleis yn wir yr awr honn! Yn wahanol i fersiwn y Vetustus, treiglir gwraig ar ei ôl yn Pen 54. Cymh. yr enghreifftiau o Ha wraig etc. a ddyfynnir yn TC 416.
y Bwa Bach Llysenw gŵr Morfudd a gofnodir mewn dogfen gyfreithiol o ganol y 14g., gw Rhagymadrodd. Fe'i henwir hefyd yng nghywydd 'Y Gwynt', 47.16 Nac ofna er Bwa Bach.