I Forfydd.
1 Dyddgwaith dibech oedd echdoe
2 Da fu dduw a Dafydd ddoe
3 nid oedd unrhyw dydd anrheg
4 y dydd echdoe a doe deg
5 Drwg oedd fod hoiw-nod hynoeth
6 Echdoe yn frawd i ddoe ddoeth
7 O Fair wych-dec fawr echdoe
8 a fydd rhyw ddydd ar dydd ddoe
13 Doe dialawdd cawdd cowddnwyf
14 Dafydd hen a newydd nwyf
15 Gwydn-glwyf nid fel vn dall
16 gwydn wyf fel gwden afall,
17 A blyg yn hawdd gawdd gywrdd
18 Ac ni thyrr er vn gyrr gwrdd.
19 Mae ynof wangof wyngen,
20 Enaid cath annwydoc hên
21 Briwer curer cof lwydwydd
22 bo a vo arnai byw fydd.
23 Pedestr hwyr wyf cowddnwyf call
24 ar hyd erw lle y rhyd arall
25 A meistr a fawl wawlamp
26 O'r gwst lle mae gorau'r gamp
27 Gwell ym-mhell gaer gwaew lifnwyf
28 pwyll noc aur pellennic wyf
29 O dduw ai grym ym amwyll
30 a wyddant hwy pwy yw pwyll
31 Trech llafur nofiadur nwyf
32 no direidi dew[ ] ydwyf.
33 Da fyddai Forfydd yw dyn
34 or diwedd hoen eiry dywyn.
35 [211r] Iawn a wneuthum ei chanmawl
36 ond oedd iawn f'enaid i ddiawl
37 Nos da i'r ferch anherch-glaer
38 A dydd da am nad oedd daer
39 y hi a'm gorfydd haiach
40 A hâ gwraig y Bwa bach.
dd' ap Gwilym