â â â Morfudd fel yr Haul
1â â â Gorllwyn ydd wyf ddyn geirllaes,
2â â â Gorlliw eiry mân marian maes.
3â â â Gwyl, Dduw, mae golau o ddyn,
4â â â Goleuach nog ael ewyn.
5â â â Goleudon lafarfron liw,
6â â â Goleudaer ddyn, gwyl ydiw.
7â â â Gwyr obryn serch gerdd o'm pen,
8â â â Goreubryd haul ger wybren,
9â â â Gwawr y bobl, gwiwra bebyll,
10â â â Gwyr hi gwatwaru gwr hyll,
11â â â Gwiw Forfudd, gwae oferfardd
12â â â Gwan a'i câr, Gwenhwyfar hardd.
13â â â Gwe aur, llun y dyn, gwae ef
14â â â Gwiw ei ddelw yn gwaeddolef.
15â â â Mawr yw ei thwyll a'i hystryw,
16â â â Mwy no dim, a'm enaid yw.
17â â â Y naill wers yr ymddengys
18â â â Fy nyn gan rhwng llan a llys,
19â â â A'r llall, ddyn falchgall fylchgaer,
20â â â Yr ymgudd gloyw Forfudd glaer,
21â â â Mal haul ymylau hoywles,
22â â â Mamaeth tywysogaeth tes,
23â â â Moliannus yw ei syw swydd,
24â â â Maeleres Mai oleurwydd,
25â â â Mawr ddisgwyl Morfudd ddisglair,
26â â â Mygrglaer ddrych mireinwych Mair.
27â â â Hyd y llawr, dirfawr derfyn,
28â â â Haul a ddaw mal hyloyw ddyn
29â â â Yn deg o fewn corff un dydd,
30â â â Bugeiles wybr bwygilydd.
31â â â Pan fo, poen fawr a wyddem,
32â â â Raid wrth yr haul a draul drem,
33â â â Gwedy dêl, prif ryfel praff,
34â â â Dros ei phen wybren obraff
35â â â Y diainc ymron duaw,
36â â â Naws poen ddig, y nos pan ddaw.
37â â â Dylawn fydd yr wybr dulas,
38â â â Delw Eluned, blaned blas.
39â â â Pell i neb wybod yna,
40â â â Pêl yw i Dduw, pa le'dd â.
41â â â Ni chaiff llaw yrthiaw wrthi,
42â â â Nac ymafael â'i hael hi.
43â â â Trannoeth y dyrchaif hefyd,
44â â â Ennyn o bell nen y byd.
45â â â Nid annhebig, ddig ddogni,
46â â â Ymachludd Morfudd â mi:
47â â â Gwedy dêl o'r awyr fry,
48â â â Ar hyd wybr y rhed obry,
49â â â Yr ymachludd teg ei gwg
50â â â Dan orddrws y dyn oerddrwg.
51â â â Emlynais nwyf am lannerch
52â â â Y Penrhyn, eisyddyn serch.
53â â â Peunydd y gwelir yno
54â â â Pefrddyn doeth, a pheunoeth ffo.
55â â â Nid nes cael ar lawr neuadd
56â â â Daro llaw, deryw fy lladd,
57â â â Nog fydd, ddyn gwawdrydd gwiwdraul,
58â â â I ddwylo rhai ddaly yr haul.
59â â â Nid oes rhagorbryd pefrlon
60â â â Gan yr haul gynne ar hon.
61â â â Os tecaf un eleni,
62â â â Tecaf, hil naf, yw'n haul ni.
63â â â Paham, eiddungam ddangos,
64â â â Na ddeaill y naill y nos,
65â â â A'r llall yn des ysblennydd,
66â â â Olau da, i liwio dydd?
67â â â Bei ymddangosai'r ddeubryd
68â â â O gylch i bedwar bylch byd,
69â â â Rhyfeddod llyfr dalensyth
70â â â Yn oes bun dyfod nos byth.