| Morfudd fel yr Haul | |
| Gorllwyn ydd wyf ddyn geirllaes, | |
| Gorlliw eiry mân marian maes. | |
| Gwŷl, Dduw, mae golau o ddyn, | |
| 4 | Goleuach nog ael ewyn. |
| Goleudon lafarfron liw, | |
| Goleudaer ddyn, gŵyl ydiw. | |
| Gŵyr obryn serch gerdd o'm pen, | |
| 8 | Goreubryd haul ger wybren, |
| Gwawr y bobl, gwiwra bebyll, | |
| Gŵyr hi gwatwaru gŵr hyll, | |
| Gwiw Forfudd, gwae oferfardd | |
| 12 | Gwan a'i câr, Gwenhwyfar hardd. |
| Gwe aur, llun y dyn, gwae ef | |
| Gwiw ei ddelw yn gwaeddolef. | |
| Mawr yw ei thwyll a'i hystryw, | |
| 16 | Mwy no dim, a'm enaid yw. |
| Y naill wers yr ymddengys | |
| Fy nyn gan rhwng llan a llys, | |
| A'r llall, ddyn falchgall fylchgaer, | |
| 20 | Yr ymgudd gloyw Forfudd glaer, |
| Mal haul ymylau hoywles, | |
| Mamaeth tywysogaeth tes, | |
| Moliannus yw ei syw swydd, | |
| 24 | Maeleres Mai oleurwydd, |
| Mawr ddisgwyl Morfudd ddisglair, | |
| Mygrglaer ddrych mireinwych Mair. | |
| Hyd y llawr, dirfawr derfyn, | |
| 28 | Haul a ddaw mal hyloyw ddyn |
| Yn deg o fewn corff un dydd, | |
| Bugeiles wybr bwygilydd. | |
| Pan fo, poen fawr a wyddem, | |
| 32 | Raid wrth yr haul a draul drem, |
| Gwedy dêl, prif ryfel praff, | |
| Dros ei phen wybren obraff | |
| Y diainc ymron duaw, | |
| 36 | Naws poen ddig, y nos pan ddaw. |
| Dylawn fydd yr wybr dulas, | |
| Delw Eluned, blaned blas. | |
| Pell i neb wybod yna, | |
| 40 | Pêl yw i Dduw, pa le'dd â. |
| Ni chaiff llaw yrthiaw wrthi, | |
| Nac ymafael â'i hael hi. | |
| Trannoeth y dyrchaif hefyd, | |
| 44 | Ennyn o bell nen y byd. |
| Nid annhebig, ddig ddogni, | |
| Ymachludd Morfudd â mi: | |
| Gwedy dêl o'r awyr fry, | |
| 48 | Ar hyd wybr y rhed obry, |
| Yr ymachludd teg ei gwg | |
| Dan orddrws y dyn oerddrwg. | |
| Emlynais nwyf am lannerch | |
| 52 | Y Penrhyn, eisyddyn serch. |
| Peunydd y gwelir yno | |
| Pefrddyn doeth, a pheunoeth ffo. | |
| Nid nes cael ar lawr neuadd | |
| 56 | Daro llaw, deryw fy lladd, |
| Nog fydd, ddyn gwawdrydd gwiwdraul, | |
| I ddwylo rhai ddaly yr haul. | |
| Nid oes rhagorbryd pefrlon | |
| 60 | Gan yr haul gynne ar hon. |
| Os tecaf un eleni, | |
| Tecaf, hil naf, yw'n haul ni. | |
| Paham, eiddungam ddangos, | |
| 64 | Na ddeaill y naill y nos, |
| A'r llall yn des ysblennydd, | |
| Olau da, i liwio dydd? | |
| Bei ymddangosai'r ddeubryd | |
| 68 | O gylch i bedwar bylch byd, |
| Rhyfeddod llyfr dalensyth | |
| Yn oes bun dyfod nos byth. | |