Morfudd fel yr Haul
Aros yr wyf am ferch dawel ei llais,
gloywder eira mân ar raean y maes.
Gwêl, o Dduw, mai merch olau ydyw,
4 goleuach na brig yr ewyn,
lliw ton olau swnllyd ei mynwes,
merch danbaid o olau, gwylaidd ydyw.
Mae'n gwybod sut i haeddu cân serch o'm genau,
8 gwedd ragorol yr haul yn ymyl cwmwl,
arglwyddes [neu toriad gwawr] y bobl
mewn mantell o ffwr hyfryd,
mae'n gwybod sut i wawdio dyn hyll,
Morfudd deg, druan o'r bardd ffôl a gwan
12 sy'n ei charu, Gwenhwyfar hardd.
Gwe o aur yw golwg y ferch, druan ohono
yr un golygus sy'n llefain yn ddolefus.
Mawr yw ei thwyll a'i chyfrwystra,
16 yn waeth na dim, ac [eto] hi yw f'anwylyd.
Y naill dro bydd fy merch wen
yn dod i'r golwg rhwng eglwys a llys,
a thro arall, merch falch a chlyfar ar ben mur castell,
20 bydd Morfudd loyw ddisglair yn mynd i guddio,
fel yr haul â'i ymylon llesol,
yr un sy'n meithrin teyrnas yr hindda,
canmoladwy yw ei gwaith medrus,
24 masnachwraig mis Mai sy'n rhoi goleuni'n hael,
golwg fawreddog Morfudd ddisglair,
llun hardd a gloyw, mirain ac ardderchog Mair.
Daw'r haul hyd y ddaear eang ei therfynau
28 fel merch ddisglair
yn hardd o fewn cyfnod un dydd,
bugeiles yr awyr o un pen i'r llall.
Pan fo angen yr haul sy'n pylu golwg
32 (teimlwn boen fawr)
ar ôl i gwmwl trwchus ei orchuddio
(rhyfel elfennol ffyrnig)
mae'n dianc o flaen y tywyllwch
36 pan ddaw'r nos, gan greu poen annifyr.
Llawn iawn fydd yr awyr las dywyll,
golwg Eluned, lle'r blaned.
Nid oes amcan gan neb wedyn
40 i ble y mae'n mynd, pêl ydyw gan Dduw.
Ni all llaw gyffwrdd ynddo
na gafael yn ei ymyl.
Fe gyfyd drachefn drannoeth
44 gan gynnau o bell ffurfafen y byd.
Nid annhebyg, cyfrannu dicter,
yw'r modd y mae Morfudd yn ymadael â mi trwy fachludo:
ar ôl iddi ddod o'r awyr uchod,
48 rhed ar hyd y ffurfafen isod,
mae'r un deg ei gwg yn machludo
dan gapan drws y dyn drwg ac oer.
Dilynais nwyd o amgylch tir
52 y Penrhyn, cartref serch.
Fe welir yno bob dydd
y ferch ddisglair gall, a phob nos y mae'n diflannu.
Nid yw'n haws ar lawr neuadd
56 gael rhoi llaw [arni] (fe'm lladdwyd)
nag ydyw (merch a folir yn rhydd ac sy'n gwario'n deilwng)
i ddwylo rhai pobl ddal yr haul.
Nid yw'r haul tanbaid yn rhagori ar hon
60 o ran gwedd sy'n pefrio'n gyffrous.
Os oes un yn brydferthach na'r llall eleni,
y brydferthaf (o linach arglwydd) yw ein haul ni.
Pam (ymddangos sy'n gam dymunol)
64 nad yw'r naill yn meddiannu'r nos,
a'r llall yn wres ysblennydd
(goleuni da) i liwio'r dydd?
Pe bai'r ddau wyneb yn ymddangos
68 mewn cylch ym mhedair cornel y byd,
byddai'n rhyfeddod [fel mewn] llyfr â dalennau
anhyblyg
petai nos byth yn dod yn ystod oes y ferch.