Nodiadau: 111 - Morfudd fel yr Haul

GDG 42, HGDG tt.22–5

Cymhariaeth estynedig rhwng Morfudd a'r haul yw sylwedd y gerdd hon. Yn y llinellau agoriadol gellir gweld y bardd fel petai'n chwilio am ddelwedd ddigonol i gyfleu gwynder croen ei gariad. Dwy ddelwedd gonfensiynol sy'n dod gyntaf, sef eira ac ewyn y don, ond mae'r ddwy'n annigonol, a rhaid troi at ffynhonnell pob goleuni, 'goreubryd' yr haul ei hun. Hwylusir y ddelweddaeth gan y ffaith mai gair benywaidd oedd haul yn yr Oesoedd Canol. Wrth gwrs roedd yr haul hefyd yn ddelwedd gyffredin iawn yn y canu serch, gan DG ei hun (e.e. 105.30, 106.26, 130.10 a 28, 139.16) a chan ei ragflaenwyr. Yr hyn sy'n arbennig am y gerdd hon yw'r modd yr archwilir potensial pellach y ddelwedd o ran symudiadau'r haul yn yr awyr, gan gyfleu agwedd ddeublyg y bardd at ei gariad. Mae diflaniad achlysurol yr haul y tu ôl i gymylau yn cynrychioli oriogrwydd Morfudd, ac mae'r machlud yn cyfateb i'r rheidrwydd sydd arni i ddychwelyd i dŷ ei gŵr gyda'r nos. Ond er gwaetha'r ergyd negyddol sydd mor amlwg yn y ddelwedd, cloir y gerdd yn ddireidus ac yn gadarnhaol iawn trwy gynnig trefniant a fyddai'n sicrhau goleuni di-baid i'r byd.

Cynghanedd: sain 25 ll. (38%), croes 15 ll. (21%), traws 15 ll. (21%), pengoll 2 ll. (3%), digynghanedd 13 ll. (19%). Nid oes cynghanedd lusg o gwbl. Fel y sylwodd Eurys Rolant (1978), mae gwahaniaeth trawiadol o ran ansawdd yr addurn rhwng rhan gyntaf y gerdd hon a'r gweddill. Nid yw'r gerdd yn ymrannu'n daclus yn ddau hanner, ond mae'r ddau baragraff cyntaf (1-26) yn sefyll allan oherwydd y cymeriad estynedig ar G- ac ar M-, a llawer ohono'n gymeriad cynganeddol cywrain. Moli Morfudd a wneir yn bennaf yn y rhan honno. Wrth droi at y wedd dwyllodrus ar ei phersonoliaeth ar ddechrau'r ail baragraff ceir dwy linell ddigynghanedd (15, 17) a diffyg cymeriad, ond daw'r addurn yn ôl yn llawn yng ngweddill y paragraff sy'n canolbwyntio eto ar ei phrydferthwch. Ni cheir dim cymeriad y tu hwnt i ffiniau'r cwpled yng ngweddill y gerdd, ac mae nifer y llinellau digynghanedd yn cynyddu wrth i'r gerdd fynd rhagddi (39, 43, 47, 49, 53, 55, 59, 61, 65, 67, 69). Gellid dadlau bod y newid yn ansawdd yr addurn yn adlewyrchu'r pwyslais ar ochr negyddol delwedd yr haul.

Trafodir y gerdd gan John Rowlands, 'Morfudd fel yr Haul', YB, vi (1971), 16–44, a chan Eurys Rolant, 'Morfudd fel yr Haul', Y Traethodydd, cxxxiii (1978), 95–101.

Mae dau fersiwn sylfaenol o'r cywydd hwn, y naill yn ddeheuol mewn copïau o Lyfr Wiliam Mathew a'r llall yn ogleddol mewn copïau o'r Vetustus a llawysgrifau cysylltiedig. Yn anffodus, dim ond 24 llinell olaf y cywydd a geir yn Pen 49, ac ar gyfer y gweddill mae'n rhaid dibynnu ar gopïau llai ffyddlon o LlWM yn Ll 6 a llsgrau Llywelyn Siôn. Yn ogystal â'r tri deilliad adnabyddus o'r Vetustus, sef H 26, M 212 a G 3 (1–12 yn unig), fe ymddengys fod M 146 hefyd yn gopi ohono yn yr achos hwn. Mae'r ddau fersiwn yn gwahaniaethu o ran nifer a threfn llinellau. Fersiwn LlWM yw'r un llawnaf, ac mae'i ddarlleniadau'n well ar y cyfan, ond dilynwyd trefn y fersiwn arall o ran lleoliad 41–2 a 47–50 (h.y. yn dilyn 45–6) yn y testun golygedig, fel y gwnaethpwyd yn GDG, am fod strwythur y ddelweddaeth yn well felly.

1. ydd   Sylwer mai yr yw'r geiryn yn fersiwn y Vetustus, enghraifft o ddiweddaru'r iaith efallai. Ond fe ymddengys mai yr a geid yn LlGH a LlWM yn 140.1 (= GDG 86.1).

geirllaes   Cynigiodd Parry yr ystyr 'parablus, llac ei hymadrodd' (GDG 578), ac fe'i dilynwyd yn betrus gan Rowlands (1971, 27–8; HGDG 24). Ond yr unig ystyr a roddir yn GPC 1388 yw 'yn llefaru'n araf, arafair, yn llusgo'i eiriau', a derbyniwyd honno gan Parry yn GDG3. Cymh. 62.4 a DGG LXXV.72. Er gwaetha'r sôn am watwaru yn ll. 10 isod, mae hyn yn debyg o fod yn ddisgrifiad delfrydol.

3.   Nid oes cefnogaeth yn y llsgrau i ddarlleniad GDG, Gwŷl Duw y mae golau dyn. Ceir y ffurfiau treigledig, Dduw a ddyn ymhob copi, gydag o o flaen y naill neu'r llall. Ychwanegodd Parry y geiryn y er mwyn cael saith sillaf. Mae'r gystrawen golau o ddyn yn ddigon cyffredin gan DG, ac efallai mai golau a ddyn a geid yn wreiddiol (gw. 39.30n., lle dylid darllen clau a chwiban), ac mai dyna a achosodd y dryswch. Ffurf ddiweddar yw mai yn lle mae mewn cymal enwol pwysleisiol, gw. WG 448.

6. goleudaer ddyn   darlleniad fersiwn LlWM. Mantais hyn yw cadw'r haul yn uchafbwynt ar y ddelweddaeth yn ll. 8.

7. gŵyr obryn   Awgrymodd Rolant (1978, 99) fod hyn yn amwys, a bod 'pengam-haeddu' yn ystyr bosibl.

serch gerdd   Dau air ar wahân sydd yn Ll 6, ac o'u cadw felly ceir cynghanedd bengoll yn y llinell. Awgrymodd Rolant (1978, 97) y dylid dilyn darlleniad y Vetustus, serch gair, ond disgwylid treiglo ail elfen y cyfuniad.

9. gwawr   Er mai'r ystyr drosiadol 'arglwyddes' sydd fwyaf cyffredin ym marddoniaeth y cyfnod, mae'n amlwg bod yr ystyr wreiddiol 'toriad dydd' yn berthnasol iawn yn y cyd-destun hwn.

10.   Sylwer mai'r ffurf dreigledig watwaru a geir yn fersiwn y Vetustus, enghraifft arall o ddiweddaru mae'n debyg.

11. oferfardd   Defnyddid ofer yn aml fel condemniad moesol ar y glêr (e.e. GC 7.199), ond defnyddid oferwr hefyd yn derm niwtral am glerwr (gw. GPC 2631). Ar y llaw arall ceir oferfardd yn y Trioedd am feirdd amatur (gw. TYP3 22–4), a gallai'r ystyr honno fod yn berthnasol yma gan fod Dafydd yn canu am deimladau ei galon yn hytrach na moli am dâl. A gallai fod yn fardd ofer yn yr ystyr nad oes gobaith iddo ennill Morfudd er gwaetha'i holl gerddi iddi.

12. Gwenhwyfar   Anodd penderfynu rhwng hyn a gwen hwyrwar fersiwn y Vetustus. Ond mae cyfeiriadau eraill at Wenhwyfar yn 65.22 a 128.33, ac efallai mai camrannu'r enw a arweiniodd at y newid. Gw. ymhellach 128.33n.

16.   Awgrymodd Rolant (1978, 97) ddiwygio'r llinell fel hyn: Mwy nôd ym am enaid yw, gan weld yma gyfeiriad at nod fel marc crwn i saethu ato, a hefyd at yr ystrydeb yng nghanu serch y 15fed ganrif fod cariad y ferch yn rhoi i'r bardd ei enaid mewn dull cyfatebol i bardwn eglwysig. Er gwaethaf honiad Rolant y 'gellir bod yn siŵr bod Dafydd ap Gwilym wedi bwriadu mynegiant mwy barddonol na'r darlleniad arferol sydd i'r llinell', ni welir angen diwygio, ond efallai y byddai elfen o amwysedd yn y llinell ar lafar o leiaf.

18. rhwng llan a llys  Dilynir fersiwn y Vetustus yma, yn hytrach na fersiwn LlWM (a GDG), mewn llan a llys, gan fod symudiad Morfudd rhwng yr eglwys a'i chartref yn cyfateb i symudiad yr haul ar draws yr awyr.

19.   Mae llall ... falchgall fylchgaer (LlWM) yn batrwm cynganeddol mwy nodweddiadol na galch falch fylchgaer (fersiwn y Vetustus a GDG). Gw. y nodyn ar doeth, 54 isod. Cynigiodd Rolant (1978, 99–100) y darlleniad hwn, ac awgrymodd amwysedd yn seiliedig ar f'alchgall, a'r elfen gyntaf alch yn golygu'r rhwyllwaith o fariau haearn neu goed ym mwlch ffenestr. Ond prif ergyd y ddelwedd yw bod Morfudd fel merch fonheddig mewn castell sydd i'w gweld yn ysbeidiol rhwng y bylchau ar ben y mur.

20. ymgudd   darlleniad fersiwn LlWM. Nid oes tystiolaeth yn y llsgrau dros yr achludd GDG. Fe ymddengys mai yr ymachludd oedd yn y Vetustus, fel yn 49 isod, ond mae'n gwneud y ll. yn rhy hir yma.

21. hoywles   Mae'n debyg mai lles, 'budd', yw'r ail elfen, ond cofier awgrym D. J. Bowen (1963, 205) mai benthyciad o'r Saesneg lease yn yr ystyr 'gweithred gyfreithiol' sydd yma, gan gyfeirio at ysgrifen addurnedig.

22.   Cymh. Mamaeth tywysogaeth twyll, 98.12.

24.   Cymerodd John Rowlands (1971, 34) fod oleurwydd yn disgrifio Mai, ac mai'r ergyd yw bod Morfudd yn cyfyngu ar oleuni hael Mai trwy fod yn fasnachwraig. Gellid esbonio'r treiglad i'r ansoddair ar ddelw ansoddeiriau'n dilyn enwau personol. Cymerir yma, fodd bynnag, fod oleurwydd yn cyfeirio'n ganmoliaethus at Forfudd.

25. disgwyl   Naturiol yw deall hyn yn yr ystyr 'expect' fel y gwnaeth Rowlands (HGDG 24) a Thomas yn DGHP. Ond mewn gwirionedd fe ymddengys mai 'edrych' oedd prif ystyr y gair gan DG (ystyr sy'n gyffredin o hyd yn nhafodieithoedd y de), fel y gwelir yn glir yn 86.37, 137.41, a 112.11 (cymh. hefyd 139.3, ond cyferbynner 55.9 ac efallai 58.13). Ac mae'r ystyr honno'n addas iawn yn y cyd-destun hwn, gan gyfeirio at olwg Morfudd.

28. hyloyw   darlleniad anos na hoywliw fersiwn y Vetustus, ac mae hefyd yn gyson â thema'r cywydd.

29. o fewn corff un dydd   Dilynwyd fersiwn LlWM yma, gan gymryd bod pwyslais ar yr amrywiaeth o fewn yr un diwrnod.

31–4.   Gan fod y cwpled cyntaf yn eisiau yn fersiwn LlWM, a'r ail yn fersiwn y Vetustus (am fod y ddau'n cynnwys isgymalau, mae'n debyg), anodd penderfynu ar drefn gywir y ddau. Penderfynwyd newid trefn GDG am fod Pan fo yn rhoi dechrau mwy pendant i'r frawddeg.

38. Eluned    darlleniad llawysgrifau Llywelyn Siôn. Ceir elfed yn Ll 6, ac yn anffodus nid yw'r cwpled hwn yn rhan o'r darn yn Pen 49, felly anodd yw bod yn sicr beth oedd yn LlWM (ond fe ddichon fod elfed yn ffrwyth camddarllen eluned fel eluued ). Ni cheir y cwpled o gwbl yn fersiwn y Vetustus. Ystyriai Parry fod y ddau ddarlleniad yn ddisynnwyr, ac felly diwygiodd i eilywed , 'tristwch' yn GDG. Mae'n bosibl bod y darlleniadau'n ymdrechion gan gopïwyr i wneud synnwyr o rywbeth anghyfarwydd, ond eto mae Eluned yn rhoi synnwyr boddhaol. Cymh. 140.9 lle adferwyd Eluned. Cymerodd Rolant (1978, 100) fod Eluned yn gyfeiriad at forwyn Iarlles y Ffynnon, ond Luned yw ffurf arferol yr enw hwnnw. Mae'n debyg felly mai'r santes a oedd yn ferch i Frychan Brycheiniog a feddylir, gw. 140.9n.

41–2.   Yn fersiwn LlWM mae'r rhain gyda'r darn sy'n sôn am daro llaw ar Forfudd, 55–8, ond gwell yw eu cael yma fel bod cyfatebiaeth rhwng y ddelwedd a'r cymhwysiad.

44. ennyn   Y ffurf dafodieithol nyn(n)y (gw. GPC 1224) a geir yn Ll 6 a llsgrau Llywelyn Siôn

nen y byd   Dilynwyd Ll 6 yn GDG, o nen byd, ond trwy ddilyn llsgrau Llywelyn Siôn gellir cymryd nen yn wrthrych ennyn ac osgoi ailadrodd o. Cymh. nen y nef yn 50.28.

47–50.   Mae'r rhain yn dilyn 62 yn fersiwn LlWM, ac felly'n amharu ar y cyswllt rhwng 62 a'r paragraff olaf.

51. emlynais   dyma'r ffurf a geir yn fersiwn LlWM. Cymh. 75.23 (= GDG 46.27), lle mae'r llsgrau'n gytûn ar y ffurf hon. Efallai am fod y ffurf gydag e - yn anghyfarwydd y newidiwyd y gair i erlynais yn fersiwn y Vetustus. Yn sgil derbyn y ffurf hon rhaid darllen am gyda llsgrau LlWM, yn hytrach nag ar. Mae am yn ddigon addas o ran cyfleu stelcian llechwraidd y carwr o amgylch tŷ'r ferch.

52. y Penrhyn   sef y Penrhyn-coch ym mhlwyf Llanbadarn Fawr, mae'n debyg, heb fod nepell o Frogynin.

54. doeth   Mae coeth fersiwn y Vetustus yn cynnig delwedd wahanol o Forfudd. Cymh. falchgall yn 19 (darlleniad arall sy'n unigryw i fersiwn LlWM).

63. eiddungam   Mae'r ail elfen yn amwys. Dilynir DGHP wrth ei deall fel 'step', ond sylwer bod Rowlands (1971, 43) yn ei deall fel yr ansoddair, ac yn aralleirio, 'ymddangos er mwyn ennyn cyffro ofer' (HGDG 25).

64. deaill   Hon yw'r unig enghraifft yn GPC o'r ferf hon yn yr ystyr 'meddiannu', ond hawdd gweld sut y datblygodd yr ystyr honno o gofio mai gallu , 'gafael', yw bôn y ferf.

67 bei   hon oedd y ffurf a geid yn LlWM. Ceir ped yn fersiwn y Vetustus.

68. o gylch   Dilynwyd fersiwn LlWM yma, ond mae'n debyg nad oes gwahaniaeth ystyr arwyddocaol rhwng hyn ac ar gylch fersiwn y Vetustus.

70.   Mae'n debyg bod y ffurf dreigledig ddyfod yn fersiwn y Vetustus yn esiampl arall o ddiweddaru'r iaith.