Kywydd yr haul
1 Gorllwyn i ddwyf ddyn garllaes
2 gorlliw eiry man marian maes
3 gwyl dduw mae golav o ddyn
4 golauach nag ael ewyn
5 golaudon lavardon liw
6 golauder ddyn gwael ydiw
7 gwyr o vrynn serchgerdd om penn
8 golauber haul gwir wybrenn
9 gwawr y bobl gwira bebyll
10 gwyr hi gwatwarv gwr hyll
11 gwiw Vorfydd gwae overfardd
12 gwnn ath gar Gwenhwyvar hardd
13 gwe o aur dyn gwiw i wedd
14 gwiw i ddelw mewn gwyddiledd
15 [480] mawr yw i thwyll ai hystryw
16 mwy na dim am enaid yw
17 y naillwers ir ymddengys
18 y nyn gann mewn llann a llys
19 ar llall ddyn valchgall vylchgaer
20 ir ymgydd gloew Vorfydd glaer
21 mal haul ymylav hoewles
22 mamaeth twysogaeth y tes
23 moliannvs yw i syw swydd
24 maeleres mai elorwydd olaurwydd
25 mawr ddisgwyl Morfydd ddisglair
26 mygr glawr drych myrainwych Mair
27 hyd y llawr dirfawr derfyn
28 haul a ddaw mal hyloew ddyn
29 yn deg o vewn korff vn dydd
30 bigailes wybr bwy gilydd
33 gwedy del prif rhyvel praff
34 dros i phenn wybrenn obraff
35 i diank ymronn dyaw
36 naws poen ddig y nos pan ddaw
37 dulawn vydd yr wybr dulas
38 delw Elvned blaned blaned blas
39 pell i neb wybod yna
40 pel o dduw pa le i dda
43 trannoeth i drychef hevyd
44 nynny o bell nenn y byd
45 nyd anhebig ddig ddogni
46 i mal machlydd Morfydd a mi
51 [481] elynais nwyf am lannerch
52 y penryn esyddyn serch
53 paenydd i gwelir yno
54 pefr dyn ddoeth a phaunoeth ffo
55 nyd nes kael ar lawr nauadd
56 darf i llaw deriw vy lladd
57 Morfydd ddyn gwawdrydd gwiwdraul
58 i ddwylaw rhai na ddalar haul
41 ny chaiff llaw yrthiaw wrthi
42 nyd ymavaul haul a hi
59 nydoes rhagor bryd pefrlon
60 gann yr haul gynny ar honn
61 os tekaf vn y leni
62 tekaf hil naf ywn haul ni
47 gwedy del or awyr vry
48 ar hyd wybr i rhed obry
49 ir ymachlydd teg i gwg
50 dan orddrws y dyn oerddrwg
63 paham aiddingam ddangos
64 na ddeaill vn y naill nos
65 ar llall yn des ysblennydd
66 o le da i liwiaw dydd
67 bai ymddangosair ddaubryd
68 ogylch i bedwar bylch byd
69 rhyveddod lyfr delausyth
70 yn oes bvn ddyvod nos byth
Davydd ap gwilym ai kant