{ko: i Vorvidd}
1 Gorllwyn yr wyf ddyn gyrllaes
2 gorlliw eiry man marian maes
3 gwyl o dduw mae golau ddyn
4 goleuach nog ail ewyn
5 goleudon lavarvron vriw
6 goleuder haul gwyl ydiw
7 gwyr obryn serch haul om penn
8 goreu bryd haul gaer wybren
9 gwawr y bobl gwiwra bebyll
10 gwyr hi watworu gwr hyll
11 gwiw vorvydd gwae overvardd
12 gwann ai car gwen hwyrwar hardd
13 gwae aur llyn ydyn gwae ef
14 gwiw i ddelw yn gwaeddolef
15 mawr yw i thwyll ai hystryw
16 mwy no dim a'm enaid yw
17 y naill wers yr ymddengys
18 ynyn gan rhwng llan a llys
19 ar llall ddyn galch valch vylchgaer
20 ir ymachludd gloyw vorvudd glaer
21 mal haul emylau hoywles
22 mamaeth tywysogaeth tes
23 molianus yw i syw swydd
24 mayliyres Mai oleurwydd
27 hyd y llawr dirvawr dervyn
28 haul a ddaw mal hoywliw ddyn
29 [351] yn deg o vncorph y dydd
30 bugeilies wybr bigilydd
31 pan vo poen vawr a wyddem
32 rhaid wrth haul a draul drem
35 y dieinc wrth vron duaw
36 naws poen ddig ynos pan ddaw
41 ni chaiph llaw yrthiaw wrthi
42 nag ymavael ai hael hi
39 pell i neb wybod yna
40 pel yw i Dduw pa le dda
51 erlynais nwyf ar lannerch
52 y Penrhyn syddyn y serch
53 bevnydd y gwelid yno
54 befr ddyn coeth a pheunoeth pho
55 nid haws ar wawr y neuadd
56 daro llaw deryw vy lladd
57 nog i ddyn gwowdrydd gwiwdraul
58 i ddwylaw rhai ddal yr haul
45 nid anhebig ddig ddogni
46 y machludd Morvudd i mi
49 yr ymachludd mwyn igwg
50 dan arddrws y dyn oerddrwg
47 a phan ddel or awyr vry
48 dan haul wybr dwyn hwyl obry
61 os teg hon lonn oleuni
62 tecaf hwyl naf yw'n haul ni
67 pen ymddangosair ddeubryd
68 argylch i bedwar bylch byd
69 rhyveddod llyfr dolensyth
70 yn oes bvn ddyvod nos byth
Dauid ap Gwilim