â â â Trech a Gais nag a Geidw
1â â â Ceisio yn lew heb dewi,
2â â â Beunydd fyth, bun ydd wyf i.
3â â â Cadw y mae Eiddig hydwyll
4â â â Ei hoywddyn bach hyddawn bwyll.
5â â â Traws y gwyl, treisig olwg;
6â â â Trech a gais, trwy awch a gwg,
7â â â Nog a geidw rhag direidwas
8â â â Ei ddyn gwyn ar ael glyn glas.
9â â â Nid hawdd cadw cymen wen wych
10â â â Rhag lleidr yn rhygall edrych.
11â â â Un orchwyl pan ddisgwyliwyf,
12â â â Yn llywio drem â lleidr wyf.
13â â â Gwydn y mae ef, addef oedd,
14â â â Yn ei chadw, anwych ydoedd;
15â â â Gwydnach yr wyf, trymglwyf trais,
16â â â Yn amgylch bun yn ymgais.
17â â â Serchog, o'i radd gyfaddef,
18â â â O chais a gâr, ni chwsg ef.
19â â â Hoed gwyliwr, pylgeinwr pwl,
20â â â Hynag fydd hunog feddwl.
21â â â Tebig iawn, o fawrddawn fudd,
22â â â Em fawrfalch, wyf am Forfudd,
23â â â I'r march a wyl o'i warchae
24â â â Y ceirch ac ni wyl y cae.
25â â â Minnau heb ochel gelyn
26â â â A welaf ddiweiriaf ddyn
27â â â Ac ni welaf, hyaf hawl,
28â â â Ei du gymar, deg emawl.
29â â â Ni welo Duw'r dyn geirsyth,
30â â â Ni wyl yntau finnau fyth.
31â â â Mwy blyg ni bydd mablygad
32â â â Ym mhen gwledig, unben gwlad.
33â â â Trech, lle'r ymddrychaif glaif glas,
34â â â Wyf nog ef, ofn a gafas.
35â â â Tramwyaf, lwyraf loywryw,
36â â â Trefi fy aur tra fwyf fyw.
37â â â Oerfel ym o gochelaf
38â â â Eirian oroen, huan haf,
39â â â Arfog swydd o ryfig sâl,
40â â â Er a'i ceidw, eurog hoywdal.