| Trech a Gais nag a Geidw | |
| Ceisio yn lew heb dewi, | |
| Beunydd fyth, bun ydd wyf i. | |
| Cadw y mae Eiddig hydwyll | |
| 4 | Ei hoywddyn bach hyddawn bwyll. |
| Traws y gwŷl, treisig olwg; | |
| Trech a gais, trwy awch a gwg, | |
| Nog a geidw rhag direidwas | |
| 8 | Ei ddyn gwyn ar ael glyn glas. |
| Nid hawdd cadw cymen wen wych | |
| Rhag lleidr yn rhygall edrych. | |
| Un orchwyl pan ddisgwyliwyf, | |
| 12 | Yn llywio drem â lleidr wyf. |
| Gwydn y mae ef, addef oedd, | |
| Yn ei chadw, anwych ydoedd; | |
| Gwydnach yr wyf, trymglwyf trais, | |
| 16 | Yn amgylch bun yn ymgais. |
| Serchog, o'i radd gyfaddef, | |
| O chais a gâr, ni chwsg ef. | |
| Hoed gwyliwr, pylgeinwr pŵl, | |
| 20 | Hynag fydd hunog feddwl. |
| Tebig iawn, o fawrddawn fudd, | |
| Em fawrfalch, wyf am Forfudd, | |
| I'r march a wŷl o'i warchae | |
| 24 | Y ceirch ac ni wŷl y cae. |
| Minnau heb ochel gelyn | |
| A welaf ddiweiriaf ddyn | |
| Ac ni welaf, hyaf hawl, | |
| 28 | Ei du gymar, deg emawl. |
| Ni welo Duw'r dyn geirsyth, | |
| Ni wŷl yntau finnau fyth. | |
| Mwy blyg ni bydd mablygad | |
| 32 | Ym mhen gwledig, unben gwlad. |
| Trech, lle'r ymddrychaif glaif glas, | |
| Wyf nog ef, ofn a gafas. | |
| Tramwyaf, lwyraf loywryw, | |
| 36 | Trefi fy aur tra fwyf fyw. |
| Oerfel ym o gochelaf | |
| Eirian oroen, huan haf, | |
| Arfog swydd o ryfig sâl, | |
| 40 | Er a'i ceidw, eurog hoywdal. |