Edited Text: 112 - Trech a Gais nag a Geidw

Print friendly version

Trech a Gais nag a Geidw

Ceisio yn lew heb dewi,
Beunydd fyth, bun ydd wyf i.
Cadw y mae Eiddig hydwyll
4Ei hoywddyn bach hyddawn bwyll.
Traws y gwŷl, treisig olwg;
Trech a gais, trwy awch a gwg,
Nog a geidw rhag direidwas
8Ei ddyn gwyn ar ael glyn glas.

   Nid hawdd cadw cymen wen wych
Rhag lleidr yn rhygall edrych.
Un orchwyl pan ddisgwyliwyf,
12Yn llywio drem â lleidr wyf.
Gwydn y mae ef, addef oedd,
Yn ei chadw, anwych ydoedd;
Gwydnach yr wyf, trymglwyf trais,
16Yn amgylch bun yn ymgais.
Serchog, o'i radd gyfaddef,
O chais a gâr, ni chwsg ef.
Hoed gwyliwr, pylgeinwr pŵl,
20Hynag fydd hunog feddwl.

   Tebig iawn, o fawrddawn fudd,
Em fawrfalch, wyf am Forfudd,
I'r march a wŷl o'i warchae
24Y ceirch ac ni wŷl y cae.
Minnau heb ochel gelyn
A welaf ddiweiriaf ddyn
Ac ni welaf, hyaf hawl,
28Ei du gymar, deg emawl.
Ni welo Duw'r dyn geirsyth,
Ni wŷl yntau finnau fyth.
Mwy blyg ni bydd mablygad
32Ym mhen gwledig, unben gwlad.

   Trech, lle'r ymddrychaif glaif glas,
Wyf nog ef, ofn a gafas.
Tramwyaf, lwyraf loywryw,
36Trefi fy aur tra fwyf fyw.
Oerfel ym o gochelaf
Eirian oroen, huan haf,
Arfog swydd o ryfig sâl,
40Er a'i ceidw, eurog hoywdal.