Trech a Gais nag a Geidw
Rwyf yn ceisio merch yn feiddgar heb dewi,
beunydd o hyd.
Mae Eiddig twyllodrus yn gwarchod
4 ei ferch fywiog a bach [sydd â] synnwyr dawnus.
Mae'n gwylio'n orthrymus [â] golwg dreisgar;
trech [yw'r sawl] sy'n ceisio (trwy chwant a gwg)
na['r sawl] sy'n gwarchod rhag llanc direidus
8 ei ferch ddisglair ar ben glyn glas.
Nid hawdd cadw merch gymen wych
rhag lleidr [sydd] yn edrych yn gyfrwys iawn.
[Â'r] un swyddogaeth pan edrychaf,
12 yn cyfeirio [fy] ngolygon, â lleidr ydwyf.
Mae ef yn ei gwarchod yn ddygn (cyfaddefiad ydoedd),
gwael ydoedd;
yn ddycnach yr wyf (clwyf mawr trais)
16 yn ymgeisio o amgylch merch.
Ni fydd carwr (oherwydd ei gyflwr amlwg),
os yw'n ceisio'r un y mae'n ei charu, yn cysgu.
Poen gwyliwr, boregodwr llwm,
20 cysglyd fydd, [â] meddwl sy'n gwrthod [canolbwyntio].
Rwyf yn debyg (oherwydd budd dawn sylweddol,
gem fawr a balch) o ran Morfudd
i'r march a wêl y ceirch o'i gorlan
24 ac ni wêl y gwrych.
Minnau heb osgoi gelyn
a welaf [y] ferch fwyaf diwair
ac ni welaf ([yr] hawliad mwyaf hy)
28 ei chymar du, [ferch] deg yn gwisgo gemau.
Na fydded i Dduw weld y dyn unplyg ei eiriau,
ni wêl yntau finnau fyth.
Ni fydd cannwyll llygad mwy cam
32 ym mhen [unrhyw] deyrn, arglwydd gwlad.
Rwyf yn drech (lle y mae picell las yn ymgodi)
nag ef, cafodd ofn.
Ymwelaf ([y ferch] o'r llinach fwyaf ddisglair)
36 â chartrefi fy anwylyd tra byddaf byw.
[Bydded] oerfel imi os byddaf yn osgoi
[y ferch â] lliw disglair, haul haf,
(swydd arfog o achos tâl rhyfyg)
40 oherwydd [y sawl] a'i ceidw, ferch euraidd â thalcen
hardd.