| Trech a Gais nag a Geidw | |
| Rwyf yn ceisio merch yn feiddgar heb dewi, | |
| beunydd o hyd. | |
| Mae Eiddig twyllodrus yn gwarchod | |
| 4 | ei ferch fywiog a bach [sydd â] synnwyr dawnus. |
| Mae'n gwylio'n orthrymus [â] golwg dreisgar; | |
| trech [yw'r sawl] sy'n ceisio (trwy chwant a gwg) | |
| na['r sawl] sy'n gwarchod rhag llanc direidus | |
| 8 | ei ferch ddisglair ar ben glyn glas. |
| Nid hawdd cadw merch gymen wych | |
| rhag lleidr [sydd] yn edrych yn gyfrwys iawn. | |
| [Â'r] un swyddogaeth pan edrychaf, | |
| 12 | yn cyfeirio [fy] ngolygon, â lleidr ydwyf. |
| Mae ef yn ei gwarchod yn ddygn (cyfaddefiad ydoedd), | |
| gwael ydoedd; | |
| yn ddycnach yr wyf (clwyf mawr trais) | |
| 16 | yn ymgeisio o amgylch merch. |
| Ni fydd carwr (oherwydd ei gyflwr amlwg), | |
| os yw'n ceisio'r un y mae'n ei charu, yn cysgu. | |
| Poen gwyliwr, boregodwr llwm, | |
| 20 | cysglyd fydd, [â] meddwl sy'n gwrthod [canolbwyntio]. |
| Rwyf yn debyg (oherwydd budd dawn sylweddol, | |
| gem fawr a balch) o ran Morfudd | |
| i'r march a wêl y ceirch o'i gorlan | |
| 24 | ac ni wêl y gwrych. |
| Minnau heb osgoi gelyn | |
| a welaf [y] ferch fwyaf diwair | |
| ac ni welaf ([yr] hawliad mwyaf hy) | |
| 28 | ei chymar du, [ferch] deg yn gwisgo gemau. |
| Na fydded i Dduw weld y dyn unplyg ei eiriau, | |
| ni wêl yntau finnau fyth. | |
| Ni fydd cannwyll llygad mwy cam | |
| 32 | ym mhen [unrhyw] deyrn, arglwydd gwlad. |
| Rwyf yn drech (lle y mae picell las yn ymgodi) | |
| nag ef, cafodd ofn. | |
| Ymwelaf ([y ferch] o'r llinach fwyaf ddisglair) | |
| 36 | â chartrefi fy anwylyd tra byddaf byw. |
| [Bydded] oerfel imi os byddaf yn osgoi | |
| [y ferch â] lliw disglair, haul haf, | |
| (swydd arfog o achos tâl rhyfyg) | |
| 40 | oherwydd [y sawl] a'i ceidw, ferch euraidd â thalcen hardd. |