{ko: I wraig gwr arall}
1 Keisio yn lew eb dewi
2 bevnydd vyth bvn yddwyfi
3 cadw y mae eiddig hydwyll
4 i hoywddyn bach hyddawn bwyll
5 traws i gwyl trais a golwg
6 trech a gais trwy awch a gwg
7 nog a geidw rhac diriaidwas
8 i ddyn gwyn ar ael glyn glas
9 nid hawdd cadw cymen wen wych
10 rhag lleidr yn rhygall edrych
11 vn orchwyl lle disgwyliwyf
12 yn llywo drem a lleidr wyf
13 gwydn yw ef addef oedd
14 yn i chadw anwych ydoedd
15 gwydnach ydwyf trymglwyf trais
16 yn amgylch bvn yn ymgais
17 serchog oi radd gyvaddef
18 o chais a gar ni chwsg ef
19 mal gwyliwr plygeiniwr pwl
20 hvnaw vydd hynn a veddwl
23 y march a wyl oi warchay
24 y ceirch ag ni wyl y cay
25 minaû eb ochel gelyn
26 a welaf ddiweiriaf ddyn
27 ag ni welaf heuaf hawl
28 i dû gymmar deg emmawl
29 ni welo Dûw'r dyn geirsyth
30 ni wyl ynte vine vyth
31 mwy blyg na bydd mablygad
32 ymhen gwledig vnben gwlad
33 trech llei'r ymgyrchaif glaif glas
34 wyf nog ef ofn a gafas
35 tramwyaf lwyraf loywryw
36 trefi vy aûr tra vwy vyw
37 oervel ym o gochelaf
38 eirian oroen hûan haf
39 arvog serch o ryvig sal
40 yr ai ceidw eurog hoywdal
Dauid ap Gwilim