{I Eiddig}
1 Ceisiaw yn lew heb Dewi
2 beunydd fyth bun ydd wyfi
3 Cadw y mae eiddig hydwyll
4 ei hoew-ddyn bach hyddawn bwyll
5 Traws y gwyl trais a golwg
6 Trech a gais trwy awch a gwg
7 Nog a geidw rhag direid-was
8 Ei ddyn gwynn ar ael glynn glas
9 d hawdd cadw cymmen wenn wych
10 Rhag lleidr yn rhygall edrych
11 Vn orchwyl lle disgwyliwyf
12 Yn llywio drem a lleidr wyf
13 Gwydn yw ef addef oedd
14 Yn ei chadw annwych ydoedd
15 Gwydnach ydwyf trym-glwyf trais
16 yn amgylch bun yn ymgais
17 Serchog (oi radd gyfaddef)
18 O chais a gar ni chwsc ef
19 Mal gwyliwr pylgeini-wr pwl
20 Hunaw fydd hyn a feddwl
23 Y march a wel o'i warchae
24 Y ceirch ac ni wel y cae
25 Minne heb ochel gelyn
26 a welaf ddiweiriaf ddyn
27 Ac ni welaf heaf hawl
28 Ei du gymmar deg emawl
29 Ni welo duw 'r dyn geir-syth
30 Ni wel ynteu finneu fyth
31 Mwy blyg na bydd mab lygad
32 Ym-mhen gwedic vn-ben gwlad
33 Trech lle 'r ymgyrchaif glaif glas
34 Wyf nog ofn a gafas
35 Tramwyaf lwyraf loewryw
36 Trefi fy aur tra fwy fyw
37 Oerfel i'm o gochelaf
38 Eirian oroen huan haf
39 Arfog serch o ryfyc sal
40 Er ai ceidw eurawc hoewdal
dd ap Gwilym