1 keissiaw yn le heb dewi
2 bevnydd vydd bvn yddwyf vi
3 kadw y may eiddig hydwyll
4 i hoywddyn balch hyddawn bwyll
5 [47] traws i gwyl treissig olwg
6 trech a gais trwy awch a gwg
7 Nog a geidw rac direidwas
8 i ddyn gwynn o vewn glynn glas
9 Nid hawdd kadw kymenn wenn wych
10 rac lleidr a rygall edrych
11 vn orchwyl pan ddisgwyliwyf
12 yn llywyaw drem a lleidr wyf
13 gwydn y may ef addef oedd
14 yny chadw anwych ydoedd
15 gwydnach yr wyf trymglwyf trais
16 yn am gylch bvn yn ymgeis
19 hoed gwyliwr pylgeiniwr pwl
20 hvnog vydd hynac veddwl
17 serchog oi radd kyvaddef
18 O chais a gar ni chwsg ef
21 Tebig iawn o vawrddawn vvdd
22 Em vawrvalch wyf am vorvydd
23 [48] ir march a wyl oi warchay
24 y keirch ac ni wyl y kay
25 minne heb ochel gelyn
26 a welaf ddiweiraf ddyn
27 ac ni welaf hyaf hawl
28 i du gymar degemawl
29 Ni welo duw r dyn geirsyth
30 Ni wyl ynte vinne vyth
31 mav blyg ni bydd mab lygad
32 ymhenn gwledig vnbenn gwlad
33 trech lle r ymddrycheif gleif glas
34 wyf nog ef ofn a gafas
37 Oervel ym o gochelaf
38 Eirianoer oroen hvan haf
39 arvog swydd o ryvig sal
40 Er ay keidw aurawg hoywdal
Dauit ap guili'