Kowydd i eidig
1 Keisiaw yn lew heb dewi
2 beynydd fyth byn i ddwy fi
3 cadw i mae eiddig hydwyll
4 i hoywddyn bach hyddawn bwyll
5 traws i gwyl tros i golwg
6 trech a gair trwy awch a gwg
7 nog a geidw rhag direidwas
8 i ddyn gwyn ar ael glyn glas
9 nid hawdd cadw cymen wen wych
10 rhag lleidr yn rhygall edrych
11 vn orchwyl llei disgwyliwyf
12 yn llywio i drem a lleidr wyf
13 gwydn yw ef addef oedd
14 yn i chadw anwych ydoedd
15 gwdnach ydwyf trymglwyf trais
16 yn amgylch bvn yn ymgais
17 serchog oi radd gyfaddef
18 o chais a gar ni chwsg ef
19 mal gwiliwr plygeiniwr pwl
20 hynaw fydd hynn a feddwl
23 y march a wyl oi warche
24 y ceirch ag ni wyl y cae
25 [248] minav heb ochel gelyn
26 a welaf ddifeiaf ddyn
27 ag ni welaf hyaf hawl
28 i dv gymar deg emawl
29 ni welo {wyl} fair ddyn gairsyth
30 ni wyl yntav finnav fyth
31 mwy blyg na bydd mab lygad
32 ymhen gwledig vnben gwlad
33 trech llei dyrchaif y glaif glas
34 wyf nog ef ofn agafas
35 tramwyaf lwyraf loywryw
36 trefi fy avr tra fwy fyw
37 oerfel ym o gochelaf
38 eirian oroen hvan haf
39 arfog serch o ryfig sal
40 er ai ceidw evrawg hoywdal
dd ap gwylym ai kant