â â â Yr Het Fedw
1â â â Yr het fedw, da y'th gedwir,
2â â â Ys gwae Eiddig os gwir,
3â â â Ysbail gwydd, cynnydd cannoed,
4â â â Ysgythrlen frig cangen coed.
5â â â Os dewr wyf, ys diryfedd,
6â â â Ystyriawl i'th fawl a'th fedd,
7â â â Ystofiad coed, ys difai,
8â â â Ysgîn ddail mân wiail Mai.
9â â â Ys da adail y'th eiliwyd,
10â â â Ystôr gwrteisrym ym wyd.
11â â â Duw a'th fawl, hawdd ganmawl hir,
12â â â Adeildo o fedw doldir.
13â â â Gerland a roes dyn geirloyw,
14â â â Gwmpas o'r fedwen las loyw.
15â â â Call a difradw y'th gadwaf,
16â â â Coron rhag tra hinon haf.
17â â â Culwas a'i dwg cyd ciliai,
18â â â Cwfl ddiell o fantell Fai;
19â â â Cydfaeth dyffryn, glyn gloywlas,
20â â â Coedfedw gwiw yn cydfod gwas;
21â â â Gwrygiant serch eurferch erfai,
22â â â Gwyrthiau a ffrwyth mwynllwyth Mai;
23â â â Pwyll rhag anghof a gofal,
24â â â Pebyll uwch didywyll dâl;
25â â â Mawl dyfiant, gwiw foliant gwydd,
26â â â Mynwair o dewfrig manwydd;
27â â â Gwawdau dâl gwiwdo deil-lwyn,
28â â â Gwyrdd gylch a ddiylch ei ddwyn;
29â â â Gwawr gelfydd serch, gwir goelfain,
30â â â Gwregys gwallt o'r goedallt gain;
31â â â Gwiw adail heb adfeiliaw,
32â â â Gwaith wyd Morfudd Llwyd a'i llaw.