| Yr Het Fedw | |
| Yr het fedw, da y'th gedwir, | |
| Ys gwae Eiddig os gwir, | |
| Ysbail gwŷdd, cynnydd cannoed, | |
| 4 | Ysgythrlen frig cangen coed. |
| Os dewr wyf, ys diryfedd, | |
| Ystyriawl i'th fawl a'th fedd, | |
| Ystofiad coed, ys difai, | |
| 8 | Ysgîn ddail mân wiail Mai. |
| Ys da adail y'th eiliwyd, | |
| Ystôr gwrteisrym ym wyd. | |
| Duw a'th fawl, hawdd ganmawl hir, | |
| 12 | Adeildo o fedw doldir. |
| Gerland a roes dyn geirloyw, | |
| Gwmpas o'r fedwen las loyw. | |
| Call a difradw y'th gadwaf, | |
| 16 | Coron rhag tra hinon haf. |
| Culwas a'i dwg cyd ciliai, | |
| Cwfl ddiell o fantell Fai; | |
| Cydfaeth dyffryn, glyn gloywlas, | |
| 20 | Coedfedw gwiw yn cydfod gwas; |
| Gwrygiant serch eurferch erfai, | |
| Gwyrthiau a ffrwyth mwynllwyth Mai; | |
| Pwyll rhag anghof a gofal, | |
| 24 | Pebyll uwch didywyll dâl; |
| Mawl dyfiant, gwiw foliant gwŷdd, | |
| Mynwair o dewfrig manwydd; | |
| Gwawdau dâl gwiwdo deil-lwyn, | |
| 28 | Gwyrdd gylch a ddiylch ei ddwyn; |
| Gwawr gelfydd serch, gwir goelfain, | |
| Gwregys gwallt o'r goedallt gain; | |
| Gwiw adail heb adfeiliaw, | |
| 32 | Gwaith wyd Morfudd Llwyd a'i llaw. |