Yr Het Fedw
Yr het fedw, gofelir amdanat yn dda,
gwae Eiddig os [yw hyn] yn wir,
ysbail y llwyni, gwobr [am] gan cyfarfyddiad,
4 yw brigau brodiedig canghennau'r coed.
Os wyf yn llawn hyder, nid yw hynny yn syndod,
effro [yw] dy berchennog [i bwysigrwydd] dy foli,
plethwaith o frigau, celfydd ydyw,
8 clogyn o ddail [oddi ar] ganghennau mân mis Mai.
Fe'th blethwyd yn greadigaeth hardd,
trysor wyt yn fy ngolwg [sy'n tystio i] ymarweddiad moesgar.
Duw sy'n dy fendithio, hawdd [dy] ganmol yn llaes,
12 y to plethedig [a wnaed] o [ganghennau] coed bedw tir y
ddôl.
Gerlant a roddodd y lodes fwyn ei lleferydd [i mi],
cylch [a wnaed] o [frigau] y fedwen iraidd a phrydferth.
Gofalaf amdanat yn ddoeth ac yn ofalus,
16 coron rhag gwres gormodol yr haf.
Er y dichon gadw o hyd braich bydd y gwr main yn ei
gwisgo,
penwisg gain [a grewyd] o fantell mis Mai;
yr un a fagwyd yn y dyffryn a'r glyn prydferth ac ir,
20 y coed bedw teg sydd wrth fodd calon llanc;
angerdd serch y ferch ddeniadol a golau ei phryd,
hudoliaeth a chynnyrch dymunol a thoreithiog mis Mai;
atgof rhag [bod] anghofio a rhag [bod] gofid,
24 pabell uwch talcen [gwr] pryd golau;
tyfiant [sy'n teilyngu] clod, coed [sy'n teilyngu] moliant
haeddiannol,
cadwyn o frigau cadarn y llwyni bychain;
tâl am ganiadau [serch] yw'r to teg [a wnaed o] ddail y
llwyni,
28 cylch gwyrdd ei liw a fydd yn diolch ei fod yn cael ei
wisgo;
dyfais [sy'n ganlyniad] serch [o waith] arglwyddes, rhodd
ddilys,
gwregys [o gylch y] gwallt sy'n [gynnyrch] coed y llethr
hardd;
plethwaith teg na fydd yn gwywo,
32 gwaith Morfudd Llwyd a'i llaw wyt ti.