Nodiadau: 113 - Yr Het Fedw

Fersiwn hwylus i

GDG 59

Cydnabod derbyn het a luniwyd o frigau'r fedwen a wneir yn y cywydd hwn a dethlir yr achlysur hwnnw yn frwd. Tystia'r cywyddau eraill fod i'r fedwen arwyddocâd arbennig yn myd serch, nid hwyrach am fod y goeden yn blodeuo cyn llawer o'r coed eraill a'i bod o'r herwydd yn dynodi dyfodiad y gwanwyn, sef tymor y cariadon. Yn 'Anrhegion Dafydd, Madog ac Iorwerth' disgrifir Bagadfedw ... A bun a'i rhoes heb enw rhodd, gw. 19.11–12. Cae bedw, addurn ar ffurf mwclis ac a wisgid o gylch y gwddf, yw pwnc 'Yr Euryches' (cerdd 94), a chlywn mai Morfudd a'i rhoes i'r bardd. Ymddengys mai addurn a wisgid am y pen a ddisgrifir yn y cywydd dan sylw. Fe'i gelwir yn adeildo (ll. 12), coron (ll. 16), gwregys gwallt (ll. 30). Gw. ymhellach Catrin Stevens, Arferion Caru (Llandysul, 1977), 73–5.

Y mae hwn yn un o'r cywyddau a gododd John Davies, Mallwyd, 'o hên Lyfr arall'. Maes o law ychwanegodd bum darlleniad amgen a welsai yn y Vetustus ac y mae pob un o'r rhain yn cytuno â darlleniadau H 26. Er i Thomas Parry fabwysiadu'r darlleniadau newydd hyn (gweithred a awgrymai fod y darlleniadau yn perthyn i destun rhagorach), glynodd wrth drefn Pen 49 (trawsosodwyd dau gwpled yn H 26) ac wrth rai darlleniadau eraill yn Pen 49 (ond nid y cyfan, gw. llau. 1, 12, 25, 27). Ailadroddir trefn Pen 49 yn M 161, Br 1 a Ll 53 ond nid oes cyfatebiaeth glos o ran y darlleniadau rhwng y tair llawysgrif olaf hyn a Pen 49. Dilynir trefn amgen H 26 yn Bl e 1, BL 14866, G 3, C 26, BL 10314 a LlGC 560 a gwelir bod y testunau hyn yn hynod o debyg i'w gilydd. Testun sy'n cynnwys 22 llinell a welir yn M 148 a BL 14969. Unwaith eto gwelir yn Wy 2 gwpledi nas ceir yn y llawysgrifau eraill.

Cynghanedd: croes 3 ll. (9%), traws 7 ll. (22%), sain 17 ll. (53%), llusg 5 ll. (16%)

1. het  Dyma'r enghraifft gynharaf a restir yn GPC 1861.

2.   Gellid tybio mai llinell chwe sillaf a gofnodwyd yng nghynsail yr holl fersiynau (dyma ddarlleniad H 26, M 161, Br 1) ond i gopïwyr eraill ddiwygio'r llinell er mwyn sicrhau bod yr hyd yn rheolaidd. Ond efallai fod yma enghraifft arall o'r gystrawen a + enw a lygrwyd gyda threigl amser, gw. 39.30n, 114.1n.

5. os...ys   Trawsosodwyd y ddwy ffurf a gofnodwyd yn Pen 49 a Ll 53 er mwyn gwella'r ystyr (ys...ys sydd ym mhob ffynhonnell arall) ar sail arfer Dafydd yn amrywio llafariaid. Sylwer bod y ddwy ffurf yn cael eu defnyddio yn ll. 2 uchod.

7. ystofiad   Rhoddir iddo'r ystyron 'y weithred o ystofi, gwead; trefniad, trefniadaeth, darpariaeth' yn GPC 3864 ond perthyn yr enghraifft gynharaf i'r 16g. Dyma'r ffurf a welir yn y rhan fwyaf o'r llsgrau. ond digwydd ystofwr yn Br 1 a Ll 53 (a cf. 153.32 Ystofwraig mydr gaer hydr hy). Dilynodd GDG lsgr. Pen 49, yr unig ffynhonnell sy'n cynnig ystofiawdr. Ni restrir y gair hwnnw yn GPC.

11.   Ailadroddir mawl...canmawl yn y llinell a mawl...moliant yn ll. 25. Er bod y llsgrau. yn weddol gytûn, y mae'n bosibl fod y ddwy linell yn llwgr a gellid diwygio ll. 11 i Duw a'th ddawl. Nid oedd y ferf doli yn un gyffredin, a barnu wrth y dyrnaid o enghreifftiau yn GPC 1073, ond gweddai'r ystyr 'rhannu, rhoddi'.

14. cwmpas   Y ffurf dreigledig gwmpas a welir yn y rhan fwyaf o'r llsgrau. Nid yw gwmpas yn amrywiad ar cwmpas, gw. GPC 641–2, ac nid oes achos i dreiglo'r enw ar ddechrau'r llinell. Sylweddolodd John Davies fod y llinell yn chwithig a diau mai ffrwyth ei ymyrraeth ef yw Yn gwmpas o'r fedwen las loyw Pen 49. Efallai i gopïwr cynnar gofnodi'r ffurf dreigledig er mwyn sichau'r cymeriad llythrennol gerland ... gwmpas ond sylwer mai'r cymeriad C a gynhelir yn y tri chwpled sy'n dilyn. Gellid adfer y gysefin ac am enghraifft arall o gymeriad caled a meddal cf. 149.7–8. Ond efallai mai swyddogaeth y treiglad yw dangos mai un ddelwedd Gerlant ... yn gylch sydd yma yn hytrach na dwy ac os felly dylid atalnodi yn wahanol: Gerland a roes dyn geirloyw / Gwmpas o'r fedwen las loyw.

16. tra   Swyddogaeth adferfol sydd iddo yma. Gweddai'r enw tra sy'n ffurf amrywiol ar traha 'gormodedd, afradlonedd', ond i'r 16g y perthyn y dyfyniad cynharaf sy'n cynnwys yr ystyr honno yn GPC 3550–1.

18. cwfl ddiell   Eg yn unig yw cwfl yn ôl GPC 637 ond ymddengys fod y rhan fwyaf o'r copïwyr yn trin y gair fel pe bai yn eb er nad yw'r gynghanedd yn mynnu treiglad, ac fe'u dilynwyd.

25. mawl dyfiant   Gw. 113.11n uchod. Gellid diwygio mawl dyfiant i mael dyfiant neu i mâl dyfiant. Sylwer mai mawr dyfiant yw darlleniad Pen 49 ond ni welir y darlleniad hwnnw mewn un ffynhonnell arall.

27. gwawdau dâl   Gwelir bod peth anwadalu ymhlith y copïwyr yn achos y llinell hon, ond digwydd gwawdau yn Pen 49 a H 26; digwydd y ffurf luosog hefyd yn un o'r enghreifftiau a ddyfynnir d.g. yn GPC 1603, sef llinell o waith Gruffudd ap Maredudd. Yn BL 14866 y digwydd gwawd a dâl a fabwysiadwyd yn GDG.

32. Morfudd Llwyd   Digwydd y ffurf hon ar yr enw yn y cywydd 'Llw Morfudd' drachefn, gw. 105.48 Y llw a roes Morfudd Llwyd. Efallai mai dyma'r ffurf gyflawn ar ei henw ond awgrymodd D J Bowen y gellid dehongliad arall. Nid oedd rhaid wrth wasanaeth eglwysig er mwyn gwneud priodas yn ddilys ac ymddengys fod Dafydd yn awgrymu yn y cywydd 'Llw Morfudd' iddo ef a Morfudd dyngu llw priodasol y naill i'r llall. Ac os felly efallai fod Dafydd yn priodoli'r 'Llwyd' yn ei enw ef (Dafydd Llwyd ap Gwilym Gam) i Forfudd, gw. 'Dafydd ap Gwilym a Cheredigion', LlC 14 (1981–4), 188.