ir hett vedw
1 yr het vedw da ith gedwir
2 ys gwae gan eiddig os gwir
3 ysbail gwydd cynnydd cannoed
4 ysgythrlenn frig cangen coed
5 ys dewr wyf ys diryfedd
6 ystyriawl ith vawl ath vedd
7 ystofiad coed ys difai
8 ysgrin ddail man wiail mai
9 ys da adail ith aeliwyd
10 ystor gwrteisrym ym wyd
11 duw ath fawl hawdd ganmawl hir
12 adeildo o fedw doldir
13 gerlant a roes dyn geirloyw
14 gwmpas or fedwen las loyw
15 [190r] call a difradw ith gadwaf
16 coron rhag tra hinon haf
17 culwas ai dwg cyd ciliai
18 cwfl ddiell o fantell fai
19 cydvaeth dyffryn glynn gloywlas
20 coedvedw gwiw yn cydfod gwas
21 gwrygiant serch eurferch erfai
22 gwrthiau o ffrwyth mwynlwyth mai
23 pwyll rhag angof a gofal
24 pebyll uwch di dywyll dal
25 mawl dyfiant gwiw foliant gwydd
26 mynwaur o dewfrig manwydd
27 gwawd a dal gwiw do deilwyn
28 gwyrddgylch a ddilych i ddwyn
29 gwawr gelfydd serch gwir goelfain
30 gwregis gwallt or goedallt gain
31 gwiw adail heb adfeiliaw
32 gwaith wyd morfydd llwyd ai llaw
Dafydd ap Gwilym