Pen 49, 77r–77v   
   Tud: 1
   
 
1    Yr het o fedw da y'th gedwir
2    Ys gwae i eiddig os gwir
3    Ysbail gwydd cynnydd cannoed
4    Ysgythr len frig cangen coed
5    Ys dewr wyf os diryfedd
6    Ystyriawl i'th fawl a'th fedd
7    Ysdofiawdr gwydd os difai
8    Ysgin ddail man wiail mai
9    Ys da wiailadail ityh eiliwyd
10    Ystôr gwrteisrym ym wyd
11    Duw a'th fawl hoywhawdd ganmawl hir
12    Adaildy o fedw dol-dir
13    Gerlont a wnaeth roes dŷn geirloyw
14    Yn gwmpas yor fedwen las loyw
   Tud: 2
17    [77v] Culwas a'i dŵg cyd ciliai
18    Cofl ddiell o fantell fai
15    Call a difradw y'th gadwaf
16    Coron rhag tra hinon hâf
19    Cydfaeth dyffryn glyn gloywlas
20    Coedfedw gwiw yn cydfod gwas
21    Gwrygiant serch eurferch erfai
22    Gwyrthiau a ffrwyth mwynllwyth Mai
23    Pwyll rhag angof a gofal
24    Pebyll vwch di dywyll dâl
25    Mawr dyfiant gwiw foliant gwydd
26    Mynwaur o goed ydewfrig manwydd
27    Gwawdau dail gwiwdo deil-lwyn
28    Gwyrdd gylch a ddiylch ei ddwyn
29    Gwawr gelfydd serch gwir goelfain
30    Gwregys gwallt o'r goedallt gain
31    Gwiw adail heb adfailiaw
32    Gwaith wyd Morfydd llwyd a'i llaw
 
    Dd' ap Glm'