â â â Gwallt Morfudd
1â â â Dodes Duw, da a dyst wyf,
2â â â Dwybleth i hudo deublwyf,
3â â â O radau serch, aur ydyn',
4â â â Aerwyau teg ar iad dyn
5â â â O ffrwyth golau iadlwyth gwyl,
6â â â Eurdyrch a chynnyrch annwyl,
7â â â Llwyth gwr, llyweth o gariad,
8â â â Llathr a raff uwch llethr yr iad,
9â â â Llwyr ei gwyr, ddifeiwyr fath,
10â â â Llwyn eurlliw, llyna iarllath,
11â â â Llonaid teg o fewn llinyn,
12â â â Llaes dwf yn lleasu dyn,
13â â â Llin merch oreuserch rasawl,
14â â â Llwyn aur mâl, llinynnau'r mawl.
15â â â Balch y dwg, ferch ddiwg fain,
16â â â Banadl ysgub, bun dlosgain,
17â â â Yn grwn walc, yn goron wiw
18â â â Wyldlos, blethedig oldliw,
19â â â Yn gwnsallt, fanwallt fynwaur,
20â â â Yn gangog frigerog aur,
21â â â Eirian rhodd, arwain rhuddaur
22â â â Ar ei phen o raffau aur
23â â â I hudo beirdd penceirddryw;
24â â â Oedd hyfryd i'r byd ei byw.
25â â â Bun a gafas urddasreg;
26â â â Bu ragor dawn briger deg
27â â â Cannaid rhag Cynwrig Cinnin,
28â â â Fab y pengrych, flawrfrych flin,
29â â â Llwdn anghenfil gwegilgrach,
30â â â Llwm yw ei iad lle mae iach,
31â â â Lledweddw, rheidus, anlladfegr,
32â â â Lletben chwysigen chwys egr.
33â â â Annhebig, eiddig addef,
34â â â Fulwyllt, oedd ei foelwallt ef,
35â â â Llariaidd ddifeth y'i plethwyd,
36â â â I'r llwyn ar ben Morfudd Llwyd.