Gwallt Morfudd
Rhoddodd Duw (tyst da ydwyf)
ddwy bleth i swyno pobl dau blwyf,
o fendithion serch, maent yn aur,
4 torchau teg ar gorun merch
o ffrwyth llwyth golau a rhadlon y corun,
torchau aur a chynnyrch annwyl,
digon o faich i wr, cudyn o gariad,
8 rhaff ddisglair uwch ochr y corun,
wedi'i gwyro'n llwyr, ffurf berffaith unionsyth,
llwyn o liw aur, dyna glwyd ieir (?),
llawnder teg o fewn llinyn,
12 twf llaes yn llethu merch,
llin merch raslon â'r serch gorau,
llwyn o aur pur, llinynnau'r moliant.
Mae'r ferch lawen fain yn dwyn
16 ysgub banadl yn falch, merch dlos a chain,
yn gudynnau crwn, yn goron dda
dlos a rhadlon, lliw gold Mair plethedig,
yn fantell, plethdorch o wallt mân,
20 yn aur llywethog a cheinciog,
rhodd hardd, gwisgo aur pur
ar ei phen o raffau aur
i swyno beirdd o radd penceirddiaid;
24 roedd ei bodolaeth yn hyfrydwch i'r byd.
Cafodd merch anrheg urddasol;
rhagorai gras y gwallt golau hardd
ar Gynwrig Cinnin,
28 mab yr un cyrliog ei wallt, dyn blin llwyd a brith,
creadur afluniaidd crachennog ei wegil,
moel yw ei gorun lle mae'n iach,
lled-amddifad, anghenus, cardotyn chwantus,
32 cern pothell chwerw ei chwys.
Annhebyg oedd ei wallt moel ef,
y gwr eiddig cydnabyddedig, gwirion a gwyllt,
(fe blethwyd ei heiddo hi yn fwyn ac yn berffaith)
36 i'r llwyn ar ben Morfudd Llwyd.