1 Dodes Dvw da o dyst wyf
2 Dwybleth i hvdo devblwyf
3 O radav serch avr ydyn
4 Aerwyav teg ar iad dyn
5 [115v] O ffrwyth goleu iadlwyth gwyl
6 Evrdyrch a chynnyrch anwyl
7 llwyth gwr lloweth o gariad
8 llathr yr aeth vwch llethr yr iad
9 llwyn o gwyr ddifeiwyr faeth
10 llwyn evrllwyn llyna iarllaeth
11 llonaid teg o fewn llinyn
12 llaes dwf yn lliassv dyn
13 llin merch orevserch rasawl
14 llwyn avr mal llinynnav'r mawl
15 Balch y dwg fvn ddiwg fain
16 Banadl ysgvb bvn dlosgain
17 yn grwn wallt yn goron wiw
18 wyldlos blethedig oldliw
19 yn gwnsallt fanwallt fynwavr
20 yn gangog frig evrog avr
21 Eirian rhodd arwain rhvddavr
22 Ar i phen o raffav avr
23 I hvdo beirdd penceirddryw
24 Oedd hyfryd i'r byd i byw
25 [116r] Bvn a gafas vrddasreg
26 Bv ragor dawn briger deg
27 kannaid rhag cynwrig kinin
28 fab y pengrych flowrfrych flin
29 llwdn anghynnil gwegilgrach
30 llwm yw i iad lle mae iach
31 lledfeddw rheidvs anlladfegr
32 lletpen chwysigen chwys egr
33 Anhebig eiddig addef
34 fvlwallt oedd i foelwallt ef
35 llariaidd ddifeth y plethwyd
36 Ir llwyn ar ben morfydd llwyd
Da' ap Glm'
Darlleniadau Amrywiol
12 (4) lliossi
29 anghynfil
Ysgrifennwyd b ar ddechrau ll. 5, ac
a ar ddechrau ll. 6