1 Dodes duw da dvst wyf
2 dwy bleth i hvdo devblwyf
3 o radav serch avr ydyn
4 aerwy teg ar iad dyn
5 o ffrwyth goleyad lwyth gwyl
6 avr dyrch a chynnyrch anwyl
7 llwyth gwr lloweth o gariad
8 llathe o ras ywch llether iad
11 llonaid teg o fewn llinyn
12 llaes dwf yn lliosi dyn
13 llvn merch orevserch rasawl
14 llwyn mal llinynav mawl
15 balch i dwg fvn ddiwg fain
16 banadl ysgub bvn dlosgain
17 yn grwnn walk yn goron wiw
18 wyldlos blethedig oldliw
19 yn gwnswallt fanwallt fwynavr
20 yn gangawg frigawg evrawg avr
9 llwyr i gwyr ddifai wyrfaeth
10 llwyn evrlliw llyna iarllaeth
21 [204v] eirian rhodd ar fain rhvddavr
22 ar i ffen raffav o avr
23 i hvdd hvdo beirdd penkeirddryw
24 oedd hyfryd ir byd i byw
25 Dyn a gavas yrddasdeg
26 bv ragor dawn brig avr deg
27 cannaid rhag kynvrig cynen
28 fab y penngrych flawdgrych flen
29 llwdwn gwyddvil gwegilgrach
30 llwm yw i iad llei mae iach
31 lledfeddw reydys anlladfygyr
32 lletpenn chwssigen chwys egyr
33 anhebig eiddig addef
34 fylwallt oedd i foelwallt ef
35 llariaidd ddableth i plethwyd
36 y llwyn avr ar ben morvydd llwyd
dd ab gwm ai kant