I wallt Morfydd
1 Dodes Duw da o dyst wyf
2 dwy-bleth i hudo deu-blwyf
3 O radau serch aur ydyn
4 aur teg y sydd ar iad dyn.
6 Eur-dyrch a chynnyrch annwyl
5 o ffrwyth goleuad-lwyth gwyl
7 Llwyth gwr llywaeth o gariad
8 Llathr yr aeth vwch llethr yr iad
9 Llwyr y gwyr ddifei-wyr faeth
10 Llwyn eur-llwyn llyna iarllaeth
11 [213r] Llonaid teg o fewn llinyn
12 llaes dwf yn lluassu dyn
15 Balch y dwg ferch ddi-wg-fain
16 banadl yscub bun dlosgain.
17 yn grwn wallt yn goron wiw
18 Wyl-dlos blethedic old-liw
19 yn gwnssallt fan-wallt fyn-wawr
20 y serchog frig eurog aur
23 I hudo beirdd pen ceirdd-ryw
24 oedd hyfryd i'r byd ei byw.
25 Bun a gafas vrddas-reg
26 bu ragor dawn briger-deg
27 Cannaid rhag cynwric Cinnin
28 fab y pen-grych flawrfrych flin
29 Llwdn anhynnil gwegil-grach
30 llwm yw ei iâd lle mae iâch.
31 Lledfeddw reidus anlladfegr
32 lledpen chwysigen chwys-egr
33 Anhebig eiddig addef
34 fulwallt oedd ei foel-wallt ef,
35 Llariaidd ddifeth y plethwyd
36 Ir llwyn ar ben morfydd llwyd.
Dafydd ap Gwilym