â â â Llychwino Pryd y Ferch
1â â â Y ferch a alwn f'eurchwaer
2â â â A'm annwyl eglurwyl glaer,
3â â â Mae i'm bryd, enbyd iawnbwyll,
4â â â Trwy nerth Duw troi i wrth dwyll,
5â â â Bod i'm cof, byd a'm cyfeirch,
6â â â Beidio â hi, bedw a'i heirch.
7â â â Ba dâl y'm bu o'i dilyn?
8â â â Boed awr dda beidio â'r ddyn.
9â â â Llygru a wnaeth, gaeth gerydd,
10â â â Lliw'r dyn er ys llawer dydd.
11â â â Ni allaf, nerth ni pherthyn,
12â â â Ni ellir da â lliw'r dyn.
13â â â Meddylio'r wyf mau ddolur,
14â â â Myfi a'i gwn, mwyfwy gur,
15â â â Y chwaen gyda'r ychwaneg
16â â â A ludd ei deurudd yn deg.
17â â â Enid leddf, anadl Eiddig
18â â â O'i enau du a wna dig,
19â â â Gwedy's gellyngo, tro trwch,
20â â â Y gwr dygn, bu Eigr degwch,
21â â â Anadl fal mwg banhadlen
22â â â Yn ei chylch - pam nas gylch gwen?
23â â â Gofal yw fal rhwym gefyn
24â â â Gadu'r delff i gyd â'r dyn.
25â â â Delw o bren gwern dan fernais,
26â â â Dogn benrhaith o saerwaith Sais,
27â â â Drwg gawad, dygiad agwyr,
28â â â Llugorn llon a'i llwgr yn llwyr.
29â â â Y pân Seisnig da ddigawn
30â â â A fydd drwg ym mwg y mawn.
31â â â Nïwl a ddwg yn awyr
32â â â Gan yr haul wiw ei lliw'n llwyr.
33â â â Cadeirgainc dderw, coed argor,
34â â â A fydd crin ym min y môr.
35â â â Tramwyais, hoywdrais hydreg,
36â â â Trefi y dyn tra fu deg.
37â â â Ystiwardiaeth, gaeth gariad,
38â â â Ond tra fo teg, nid tref tad.
39â â â Da gwyr beri digaru
40â â â Ei phryd, fy anwylyd fu.
41â â â Gorau gan Eiddig oeryn,
42â â â Dogn du, na bai deg y dyn.
43â â â Llychwinodd llwch o'i enau
44â â â Lliw'r dynyn mireinwyn mau.
45â â â Rho Duw a Chadfan, rhaid oedd
46â â â Rhad a geidw; rhydeg ydoedd.