Llychwino Pryd y Ferch
Y ferch yr arferwn ei galw'n gariad hardd i mi
a'm hanwylyd wylaidd, ddisglair a gloyw,
rwyf yn bwriadu, doethineb llym,
4 cefnu ar dwyll gyda chymorth Duw,
[gan] fod yn fy meddwl, mae pawb yn fy annog,
ymadael â hi, mae llwyn bedw'n ei hawlio.
Pa wobr a gefais o'i chanlyn?
8 Boed hwn yn amser ffodus i ymadael â'r ferch.
Fe ddirywiodd lliw'r ferch
ers amser hir, cosb lem.
Ni allaf, nid oes gennyf mo'r nerth,
12 ni all neb adfer lliw'r ferch.
Rwy'n troi yn fy meddwl, achos dolur i mi,
gwn amdano'n iawn, poen gynyddol,
y chwa a mwy
16 sy'n difetha ei bochau yn llwyr.
Enid drist, anadl Eiddig
o'i geg ddu sy'n achosi gofid,
ar ôl i'r gwr blin ollwng,
20 gweithred anfad (bu hi mor hardd ag Eigr),
anadl fel mwg banhadlen
o'i chwmpas - pam nad yw'r ferch yn ei olchi i ffwrdd?
Gofid fel rhwymiad llyffethair
24 yw gadael y penbwl gyda'r ferch.
Cerflun o bren gwernen wedi'i farneisio,
darn addas i bendefig o waith crefftwr o Sais,
bydd malltod drwg, lleidr gwyrgam,
28 gan lusern ffyrnig yn ei lygru'n llwyr.
Bydd y ffwr Seisnig gwych
yn mynd yn ddrwg ym mwg y mawn.
Bydd niwl yn yr awyr
32 yn mynd â lliw'r haul ysblennydd yn llwyr.
Bydd cangen frigog o goeden dderwen, cledrwaith coed,
yn crino yn ymyl y môr.
Ymwelais (undod trwy drais mentrus)
36 â chartref y ferch tra bu hi'n hardd.
Stiwardiaeth dros dro yw hyn, cariad cyfyng,
dim ond tra bo hi'n hardd, nid etifeddiaeth barhaol.
Mae hi'n gwybod yn dda sut i achosi
40 i'w golwg gael ei ddirmygu, hi oedd f'anwylyd.
Roedd yn well gan Eiddig oer,
y dernyn du, na fyddai'r ferch yn hardd.
Baeddodd llwch o'i geg
44 liw fy merch fach wen a mirain.
Myn Duw a Chadfan, roedd angen
gras gwarcheidiol; roedd hi'n rhy hardd.