GDG 81, HGDG tt. 145–50
Honnir yn y cywydd hwn fod anadl y Gŵr Eiddig wedi difetha lliw croen ei wraig. Nid enwir y ferch dan sylw, ond mae'n debyg mai Morfudd yw hon. Cerdd debyg o ran ei thema yw 'Morfudd yn Hen' (150), lle sonnir am brydferthwch wedi'i ddifetha gan ddifrod amser. Sylwer yn arbennig ar debygrwydd geiriau olaf y ddwy gerdd (gw. nodyn 46 isod).
Cynghanedd: sain 15 ll. (33%), croes 14 ll. (30%), traws 13 ll. (28%), llusg 4 ll. (9%).
Mae'n debyg bod darn o'r cywydd hwn yn Llyfr Wiliam Mathew, gan fod llinellau 1–24 yn rhan gyntaf Pen 49. Gellir tybio na chopïwyd y darn hwnnw yn Ll 6 a llsgrau Llywelyn Siôn am ei fod yn amlwg yn anghyflawn. Ond fe adawodd John Davies fwlch ar gyfer gweddill y testun, a chafodd gyfle i'w gyflenwi o'r Vetustus. Ceir copi cyflawn o'r Vetustus yn H 26, a cheir fersiwn gogleddol arall yn BM 23. Diddorol yw nodi bod hwnnw'n cytuno â Pen 49 yn erbyn H 26 mewn dau le yn rhan gyntaf y gerdd. Ond ar y cyfan nid yw'r gwahaniaethau rhwng y tri fersiwn yn fawr iawn (ond cofier nad oes ond dau fersiwn ar gyfer ail hanner y gerdd).
1. alwn Dilynir Pen 49 yma yn hytrach nag elwir BM 23 a H 26, am fod yr amser amherffaith yn rhan bwysig o ergyd y frawddeg.
4. troi Ceir trin neu drin ymhob copi. Diwygiwyd er mwyn y synnwyr, gan dybio bod y darlleniad wedi'i newid er mwyn ateb yr n berfeddgoll yn hanner cyntaf y llinell. Gellid darllen Drwy ... drin fel yn BM 23 a H 26.
7. y'm dyma a geir yn y llsgrau. Newidiodd Parry hyn i'r ffurf reolaidd a'm.
8. boed awr dda Derbyniwyd darlleniad Pen 49 yma fel yr un sy'n rhoi'r synnwyr gorau.
12. da Ystyrir bod hwn yn ddarlleniad anos na dim BM 23 a H 26.
14. mwyfwy Cefnogir Pen 49 gan BM 23 yn erbyn H 26 sy'n darllen mav vwy.
15. chwaen Prif ystyr y gair hwn oedd 'digwyddiad, tro', ond nodir hefyd 'anadliad, chwa' yn GPC 838. Nid ymddengys yr ystyr honno'n berthnasol i'r un o'r enghrau eraill a ddyfynnir yn GPC, ond cymh. 'uchenaid chwaen' GGM III, 3.15. Mae'r ystyr 'tro' yn addas yn 102.2 a 29, ond mae 'ochenaid' yn bosibl yno hefyd. Hyd y gwyddys nid oes cyswllt gwirioneddol rhwng chwaen a chwa, ond serch hynny nid annichon i chwa ddylanwadu ar chwaen, neu fod yma chwarae ar y ddau air.
17. Enid leddf Efallai fod yr ansoddair yn dwyn i gof y gamdriniaeth a ddioddefodd Enid ferch Yniwl gan ei gŵr yn y chwedl Geraint fab Erbin.
19. gwedy's Dilynwyd Pen 49 yma (sgellyngo), gan gymryd bod y rhagenw'n achub y blaen ar wrthrych y ferf (gw. GMW 56 ar y defnydd o as / ys ar ôl gwedy).
20. bu Derbyniwyd darlleniad Pen 49 yma, yn hytrach nag ail, am ei fod yn pwysleisio bod tegwch y ferch wedi darfod.
Eigr gwraig Gorlois a mam y brenin Arthur yn ôl Brut Sieffre o Fynwy.
21. banhadlen Cefnogir Pen 49 gan BM 23 eto, ond y tro hwn mae darlleniad H 26 yn sicr yn haeddu ystyriaeth, sef y fawnen, darlleniad sy'n rhoi cynghanedd hollol wahanol i'r un yn y testun. Ar yr olwg gyntaf mae y fawnen yn well o ran synnwyr (cymh. 'mwg y mawn' yn ll. 30 isod), ond eto hwn yw'r darlleniad anos. Perth sy'n tyfu ar brysgdir yw banadl, ac fel eithin mae'n llosgi'n hawdd, hyd yn oed os yw'n wyrdd, ac mae'i sudd olewog yn cynhyrchu mwg brwnt. Y tebyg yw mai dylanwad ll. 30 isod a achosodd y newid yn nhestun y Vetustus.
23. gofal yw Ceir gofid tost yn BM 23 a H 26, a yw ar ddechrau'r llinell nesaf.
25. delw o bren gwern dan fernais Bu'r defnydd o bren ar gyfer cerfluniau yn ffasiynol am gyfnod o ryw ddeugain mlynedd c. 1290–1330, yn enwedig gan gerflunwyr Westminster yn Llundain, gw. Lawrence Stone, Sculpture in Britain: The Middle Ages (Harmondsworth, 1955), 147–8. Sonia Stone am 'the thick gesso covering and the painted and gilt finish' ar y cerfluniau pren; dyna'r fernais y cyfeirir ati yma. Noda hefyd fod delwau pren yn haws eu cludo na rhai marmor, ac felly fod cynnyrch gweithdai Llundain wedi cyrraedd mor bell â sir Fynwy am y tro cyntaf yn y cyfnod hwn. Esiampl o gerflun pren y gallasai Dafydd fod yn gyfarwydd ag ef yw corffddelw John, ail farwn Hastings, yn Eglwys Priordy'r Santes Fair, Y Fenni (c. 1325), gw. Lord, 2003, 125–6.
26. dogn benrhaith Cymerodd Alan Llwyd (HGDG 146) fod hyn yn cyfeirio at wrthrych y ddelw, a bod dogn yn awgrymu mai penrhaith annigonol neu ffug oedd hwn ( '[Llun o] led/ffug bennaeth' yw ei aralleiriad). Awgrymodd ymhellach, ar sail dygiad agwyr yn y llinell nesaf, mai delw o Edmund Crouchback, mab Harri III, yn Abaty Westminster oedd hon. Ond mae'n debycach mai cyfeirio at y ddelw ei hun a wna dogn, ac mai'r perchennog neu'r noddwr yw penrhaith. A sangiad yn disgrifio drwg gawad yw dygiad agwyr, gan fod mwg y llusern yn dwyn harddwch y ddelw.
27. gawad darlleniad BM 23, sy'n rhoi synnwyr gwell na gadwad y Vetustus a dderbyniwyd yn GDG. At fwg y llusern y cyfeirir. Sylwer ar yr ystyr 'malltod, haint' a nodir yn GPC 443 s.v. cawod.
dygiad agwyr gw. nodyn 26 uchod.
28. llon 'ffyrnig' yma, cymh. 101.26.
31. nïwl Cymh. 33.23, 57.52 a 101.14.
33. argor Hon yw'r unig enghr. a nodir yn GPC 199, a chynigir yr ystyr '? Palis, cledrwaith, gwaith coed ar draeth i atal y môr'. Yr un côr sydd yma ag yn bangor.
35–6. Cymh. GDG 72.37–8.
35. hydreg Hon yw'r unig enghr. a nodir yn GPC 1954, ond cymh cyhydreg, 'dod ynghyd', GPC 746. Posibilrwydd arall yw mai gair cyfansawdd sydd yma, hydr + rheg, yn yr ystyr 'mawr ei rodd'.
39. gŵyr Cymerir mai'r ferch yw goddrych y ferf, ond mae'n bosibl mai Eiddig a feddylir, fel y cymerodd Alan Llwyd yn ei aralleiriad, er nad oes cyfeiriad penodol ato ef yn y llinellau blaenorol.
42. dogn Dilynodd Parry ddarlleniad Pen 49, gi, ond mae'n debyg mai diwygiad gan John Davies oedd hwnnw, gan mai dogn a geir yn H 26, dygyn yn Wy 2, doc y yn BM 23, docc yn Bl f 3, a dog yn LlGC 560, CM 129 a Ll 186. Gellir tybio mai ymgais i gael gwared â'r n berfeddgoll sydd tu ôl i doc / dog, a bod Davies wedi llwyddo i gyfieithu hwnnw gan gadw'r gynghanedd. Er nad yw dogn yn rhoi synnwyr boddhaol ar yr olwg gyntaf, efallai ei fod yn cyfeirio'n ôl at y defnydd o'r gair yn ll. 26 uchod, gan awgrymu bod Eiddig fel delw bren wedi duo. Ond ar y llaw arall gellid dadlau bod yr atgof am y gair yn ll. 26 wedi peri newid dog > dogn. Un broblem gyda'r ddamcaniaeth honno yw na chofnodir enghraifft o'r gair benthyg yn GPC cyn y 19eg ganrif. Disgwylid treiglad i'r ansoddair sy'n dilyn dogn, fel yn ll. 26, ond mae'r n yn ei atal yma (cymh. Ieuan Du).
45. Cadfan Gw. 140.23n. Roedd Ffynnon Gadfan yn Nhywyn yn enwog am wella afiechydon y croen (gw. LBS III, 6), ac efallai mai'r awgrym yw y dylai'r ferch fynd i ymolchi yn nŵr y ffynnon (cymh. ll. 22 uchod).
46. rhydeg Gall olygu 'teg iawn', fel y gwelir yn 15.45, ond yn y cyd-destun hwn gwell ei ddeall fel 'rhy deg'. Cymh. geiriau olaf 'Morfudd yn Hen', 'hi a fu deg' (150.42).