1 Y verch a alwn veurchwaer
2 am annwyl eglur wyl glae
3 mae ym bryt ennbyt iawnbwyll
4 trwy nerth duw trin o ywrth dwyll
5 bot ym kof byt am kyfeirc
6 beidiaw a hi bedw ai heirch
7 ba dal ym bv oi dylyn
8 boet awr dda beidiaw ar ddyn
9 llygrv a wnaeth gaeth gerydd
10 lliw /r/ dyn er ysllawer dydd
11 ni allaf nerth ni pherthyn
12 ni ellir da a lliw /r/ dyn
13 meddylynt nit mev ddolvr
14 myfi a gawn mwyfwy gvr
15 ychwaen gida /r/ ychwaneg
16 a lvdd y devrvdd yn deg
17 [45v] vnet leddf anadl eiddic
18 oi enav dv a wna dic
19 gwedy sgellyngo tro trwch
20 y gwr dygn bv eigr degwch
21 anadl val mwg banadlen
22 yn y chylch pam nas gylch gwen
23 goval yw val Rwym gevyn
24 gadv /r/ delff y gyd ar dyn
25 delw o bren gwern dan fernais
26 dogn benrhaith o saerwaith sais
27 dryg cadwad dygiad agwyr
28 llugorn llon ai llwgr yn llwyr
29 y pân seisnig da ddigawn
30 a fydd drwg ym mwg y mawn
31 y niwl a ddwg yn awyr
32 gan yr haul wiw ei lliw'n llwyr
33 cadeirgainck dderw coed argor
34 a fydd crin ym min y mor
35 tramwyais hoyw drais hydreg
36 trefi y dyn tra fu deg
37 ystiwardiaeth gaeth gariad
38 ond tra fo teg nid tref tad
39 da gwyr beri ei digarv
40 ei phryd fy anwylyd fv
41 gore gan eiddig oeryn
42 gi du na bai deg y dyn
43 llychwinodd llwch oi enau
44 lliw'r dynyn mireinwyn mau
45 Ro duw a chadfan rhaid oedd
46 Rhad a geidw rhydeg ydoedd
Da' ap glm'
Darlleniadau Amrywiol
'Exr per vetustum codicem'
13 meddylio r wyf
14 ai gwn mav
17 enid
21 y fownen
25-46 Gadawyd bwlch ar gyfer y llinellau
hyn a'i lenwi o'r Vetustus.