1 y verch a elwir vevrchwaer
2 am anwyl eglvrwyl glaer
3 Mae im bryd enbyd iownbwyll
4 drwy nerth duw drin i wrth dwyll
5 bod im kof byd am kyveirch
6 beidio a hi bedw ai heirch
7 ba dal ym bu oi dylynn
8 bod ir da beidio ar dynn
9 llygru a wnaeth gaeth gerydd
10 lliwr dyn ir ys llawer dydd
11 ni allaf nerth ni fferthyn
12 ni ellir dim a lliwr dyn
13 Meddylio rwyf mav ddolur
14 Myvi ai gwn mvwyvwy gur
15 y chwaen gidar y chwanec
16 a ludd i devrudd yn dec
17 Enid leddyf anadl eiddic
18 oi ennav du a wnna dic
19 Gwedi gollyngo tro trwch
20 y gwr dygyn ail eigr degwch
21 anadl val mwc banhadlen
22 yni chylch pan nas gylch gwen
23 govid tost val rrwym gevyn
24 yw dgador delff gidar dyn
25 delw o bren gwern dan vernais
26 dogn ben raith o saerwaith sais
27 dryc kawad digiad dic gwyr
28 llugorn llon ai llwgwr yn llwyr
29 y pan seisnic daddigawn
30 A vydd drwc y mwc y mawn
31 niwl a ddwc ynyr awyr
32 Gan yr hawl wiw i lliw yn llwyr
33 kadeir gaingk derw koed argor
34 A vydd krin y min y mor
35 tramwyais hoyw drais hydrec
36 trefi y dyn tra vu dec
37 ystiwardiaeth gaeth garriad
38 ond tra vo tec nid tref tad
39 da gwyr beri di garv
40 I ffryd vanwylyd vu
41 Gore gan eiddic oeryn
42 doc y du na bai dec y dyn
43 llychwinodd llwch oi ennav
44 lliwr dynyn mireinwyn mav
45 rro duw a chadvan rraid oedd
46 rrad a geidw rrydec ydoedd
dd ap Gwilym ai kant