â â â I Ddymuno Lladd y Gwr Eiddig
1â â â Ef aeth heddiw yn ddiwael
2â â â Gyda Rhys i gadw yr hael
3â â â O frodyr ffydd a rhai maeth
4â â â A cheraint, mau awch hiraeth,
5â â â Ymy, i ymwrdd â Ffrainc
6â â â O'r Deau, Mair a'u diainc,
7â â â Brehyrllin weilch beilch bylchgrwydr,
8â â â Breinolion, brodorion brwydr.
9â â â Mab gogan, mae begegyr
10â â â Gyda chwi, o gedwch, wyr,
11â â â Yn elyn dianwylyd
12â â â I fardd bun ac i feirdd byd.
13â â â Un llygad, cymyniad cawdd,
14â â â Ac unclust yw ar ganclawdd,
15â â â A chorn celwydd-dwyll pwyll pwl,
16â â â A chosbwr bun a'i cheisbwl.
17â â â Y sawl waith rhag trymlaith trwch
18â â â Y ffoais gynt, coffëwch,
19â â â Rhagddaw'r cawell ysgaw cau,
20â â â A'i dylwyth fal medelau.
21â â â Bid iddaw yn ei law lwyth
22â â â O faw diawl, ef a'i dylwyth.
23â â â Od â â'i enaid, baid banw,
24â â â I'r lwydlong wyllt ar lidlanw,
25â â â Llonydd ni hir gydfydd hi,
26â â â Llun ei hwyl yn llawn heli.
27â â â Gwisg ei phen fo'r ffrwd wen wawl,
28â â â Gwasgwynes y gwaisg ganawl.
29â â â Ni cherdda, ni hwylia hi,
30â â â Trychwanddyn, a'r trwch ynddi.
31â â â Gythier efo, gwthr afanc,
32â â â Dros y bwrdd ar draws y banc.
33â â â Y don hael, adain heli,
34â â â Y tâl a ddlywn i ti,
35â â â Nith mordraeth, anoeth mawrdrefn,
36â â â N'ad y trwch uriad drachefn.
37â â â Saethffrwd aig, trywanwraig trai,
38â â â Saig nawton, a'i sugn atai.
39â â â O-don-i-don, edn sugndraeth,
40â â â Od â i Ffrainc y du ffraeth,
41â â â Y sawl anghenfagl y sydd,
42â â â Hoenyn fo ei ddihenydd.
43â â â Meddyliwch, brysiwch broses,
44â â â Am ei ladd, gwnewch ymy les,
45â â â Ac na edwch y cwch cau
46â â â I'm deol am em Deau.
47â â â Tithau'r albrasiwr, tuthia,
48â â â Teflidydd defnyddwydd da,
49â â â A thafl â'r pren gwarthaflfyr
50â â â A saeth, be'th ddorost o syrr?
51â â â Brath y lleidr yn ei neidrwydd,
52â â â Bid trwch y breuddwyd, boed rhwydd.
53â â â Trywana, na fetha fath,
54â â â Traidd o'r albrs trwyddo'r eilbrath.
55â â â Adnebydd, saethydd sytharf,
56â â â Ei sythion flew fyrion farf.
57â â â Diddan ynn ei drigian draw,
58â â â Deuddeg anhawddfyd iddaw!
59â â â Diddestl farf ffanugl gruglwyn,
60â â â Dydd a ddaw, da oedd ei ddwyn.
61â â â Diddaly bardd, a hardd yw hyn,
62â â â Diddel adref i'w dyddyn.
63â â â Ffroen Eiddig, wenwynig nod,
64â â â Ffriw ddifwyn, o phraw ddyfod,
65â â â Wrth wyn ysgar, lafar lef,
66â â â Y du leidr, y dêl adref.