Edited Text: 116 - I Ddymuno Lladd y Gsr Eiddig

Print friendly version

I Ddymuno Lladd y Gŵr Eiddig

Ef aeth heddiw yn ddiwael
Gyda Rhys i gadw yr hael
O frodyr ffydd a rhai maeth
4A cheraint, mau awch hiraeth,
Ymy, i ymwrdd â Ffrainc
O'r Deau, Mair a'u diainc,
Brehyrllin weilch beilch bylchgrwydr,
8Breinolion, brodorion brwydr.

   Mab gogan, mae begegyr
Gyda chwi, o gedwch, wŷr,
Yn elyn dianwylyd
12I fardd bun ac i feirdd byd.
Un llygad, cymyniad cawdd,
Ac unclust yw ar ganclawdd,
A chorn celwydd-dwyll pwyll pŵl,
16A chosbwr bun a'i cheisbwl.
Y sawl waith rhag trymlaith trwch
Y ffoais gynt, coffëwch,
Rhagddaw'r cawell ysgaw cau,
20A'i dylwyth fal medelau.
Bid iddaw yn ei law lwyth
O faw diawl, ef a'i dylwyth.

   Od â â'i enaid, baid banw,
24I'r lwydlong wyllt ar lidlanw,
Llonydd ni hir gydfydd hi,
Llun ei hwyl yn llawn heli.
Gwisg ei phen fo'r ffrwd wen wawl,
28Gwasgwynes y gwaisg ganawl.
Ni cherdda, ni hwylia hi,
Trychwanddyn, a'r trwch ynddi.
Gythier efo, gwthr afanc,
32Dros y bwrdd ar draws y banc.
Y don hael, adain heli,
Y tâl a ddlywn i ti,
Nith mordraeth, anoeth mawrdrefn,
36N'ad y trwch uriad drachefn.
Saethffrwd aig, trywanwraig trai,
Saig nawton, a'i sugn atai.

   O-don-i-don, edn sugndraeth,
40Od â i Ffrainc y du ffraeth,
Y sawl anghenfagl y sydd,
Hoenyn fo ei ddihenydd.
Meddyliwch, brysiwch broses,
44Am ei ladd, gwnewch ymy les,
Ac na edwch y cwch cau
I'm deol am em Deau.

   Tithau'r albrasiwr, tuthia,
48Teflidydd defnyddwydd da,
A thafl â'r pren gwarthaflfyr
A saeth, be'th ddorost o syrr?
Brath y lleidr yn ei neidrwydd,
52Bid trwch y breuddwyd, boed rhwydd.
Trywana, na fetha fath,
Traidd o'r albrs trwyddo'r eilbrath.
Adnebydd, saethydd sytharf,
56Ei sythion flew fyrion farf.

   Diddan ynn ei drigian draw,
Deuddeg anhawddfyd iddaw!
Diddestl farf ffanugl gruglwyn,
60Dydd a ddaw, da oedd ei ddwyn.
Diddaly bardd, a hardd yw hyn,
Diddel adref i'w dyddyn.
Ffroen Eiddig, wenwynig nod,
64Ffriw ddifwyn, o phraw ddyfod,
Wrth wyn ysgar, lafar lef,
Y du leidr, y dêl adref.