I Ddymuno Lladd y Gwr Eiddig
Fe aeth heddiw yn wych
gyda Rhys i warchod y rhai hael
rai sy'n frodyr yn y ffydd a brodyr maeth
4 a pherthnasau imi, mae ynof fin hiraeth,
i ymladd â'r Ffrancwyr
o'r De, bydd Mair yn eu hachub.
Gweilch balch o linach bonedd ac addurn eu harfau'n dolciog,
8 rhai breiniol, cymrodyr mewn brwydr.
Mab dychan, mae cacynen
gyda chwi, os caniatewch hynny, wyr,
yn elyn dianwylyd
12 i fardd y ferch ac i feirdd y byd.
Un llygad, ewyllysiwr digofaint,
ac un glust ydyw ar gant o gloddiau,
a chorn llawn twyll celwyddog, pwl ei feddwl,
16 a chosbwr y ferch a'i rhingyll.
Yr holl droeon rhag diwedd trist, ysgeler,
dygwch hwy i'ch cof, y ffoais rhagddo gynt,
y cawell ysgaw gwag,
20 a'i dylwyth fel minteioedd.
Boed iddo yn ei law lwyth
o faw'r diafol, ef a'i dylwyth.
Os â'n fyw, rhwystr gwraig,
24 i'r llong lwyd wyllt ar lanw ffyrnig,
ni fydd iddi lonydd yn hir
[a] ffurf ei hwyl yn llawn heli.
Gwisg ei phen fyddo'r ffrwd wen ddisglair,
28 caseg Wasgwyn y sianel hardd.
Ni theithia, ni hwylia hi,
y ferch dyllog, a'r dihiryn ynddi.
Gwthier ef, y tin afanc,
32 dros y bwrdd ar draws yr ymyl.
Y don hael, adain yr heli,
byddai arnaf dâl i ti,
nith traethell, rhyfeddod trefn fawr,
36 paid â gadael yr henwr anfad yn ei ôl drachefn.
Boed i saeth ffrwd yr eigion, trywanwraig y trai,
ei sugno ati, yn saig i naw o donnau.
O don i don, aderyn sugndraeth,
40 os â'r gwr du digywilydd i Ffrainc,
[o'r] holl faglau caeth sydd,
boed i groglath fod yn ddiwedd arno.
Meddyliwch, prysurwch yr hanes,
44 am ei ladd, gwnewch imi les,
a pheidiwch â gadael i'r hen gwch gwag
fy alltudio oherwydd gem y De.
Tithau'r saethydd bwa croes, rhuthra,
48 hyrddiwr coed defnydd da,
a hyrddia â'r pren â'r warthafl fer
a saetha, pa ots i ti os bydd yn digio?
Gwana'r lleidr yn ei arlais,
52 boed y freuddwyd yn druenus ac yn rhwydd.
Trywana, paid â methu mewn unrhyw fodd,
treiddia o'r bwa croes ail ergyd drwyddo.
Adnabydda, y saethydd â'r arf union,
56 ei farf a'i blew sythion byr.
Testun diddanwch inni yw ei arhosiad draw,
boed iddo ddeuddeg aflwydd!
Y farf flêr, ffanugl mewn llwyn grug,
60 da fyddai ei ddwyn ddydd a ddaw.
Rhydd yw'r bardd, a hyfryd yw hyn,
boed iddo beidio â dod adref i'w dyddyn.
Os bydd ffroen Eiddig, genfigennus ei amcan,
64 yr wyneb sarrug, yn ceisio dod,
wrth fodd y gelyn, uchel ei floedd,
y bydded i'r lleidr du ddod adref.