Owdl fol: Howel Deon Bangor
1 Arglwydd canonswydd vn svd mordeyrn
2 a Dewi yngwlad yr hvd
3 Cybi nefol ei olvd
4 cydymddeithion Seimon Sud
5 Sain Sud vn ffvnvd ffyniwyd o genedl
6 y gwinav dav frevddwyd
7 Sain Silyn ffranc sens aelwyd
8 salm Saint Elien gwr llen Llwyd
9 Teyvrn llwyd broffwyd hil Brân mae vn gwr
10 ym Mangor mewn gown pân
11 ty geirw galch teg ei organ
12 tant cor heb atvnt ai can
13 [108] Ni chân fy nhafawd wawd wenithaidd
14 ni chair lliniodr wyr yn ochr llvniaidd
15 ni chêl i Howel hoyw garvaidd lwybr
16 o bvrddawn ewybr barddoniaidd
17 Nerthiad a gefais didrais dwy draidd
18 nim gad gam rvad ged Gymroaidd
19 nis erfyn o brvdd ag nis arfaidd draw
20 naw or praw lidiaw ner preladaidd
21 Nev r gaiff yngwynedd hoywfedd hyfaidd
22 nev r gar ai dyeingl ner gwrdaaidd
23 nevd bvrfawl gwrawl a gyraidd ym Mon
24 y beirdd yn eon barddoniaidd
25 Nid cas cyweithas wr vrddasaidd
26 nevd bardd i neddair ffyrfair ffvrfaidd
27 nid barn donn yw hon henwraidd ymryd
28 nid byd heb wndyd pryd predyddaidd
29 Nid byw fal fy llyw gloywryw glewraidd
30 nenn dan y seren dawn oes wraidd
31 nid vn gwalch hoywfalch hyfaidd llygeidfywsyw
32 ag yw cyw y dryw caeav a draidd
33 Nid vn claer araith dyn clerwraidd
34 a llwybr gwr ewybr yn garvaidd
35 nid vn bryn mebyn mabaidd a hynaif
36 nid vn gwenithgnaif a hyddaidd haidd
37 Nid vn gwin naddfin a mynyddfaidd
38 nid vn y pengnv o blv a blaidd
39 nid fal bleddyn dyn di bvroraidd ras
40 i can eiddilwas ferw cynddylaidd
41 [109] Ni wyr Cymraw llwyr Cymro llariaidd
42 rhoddi i eirchiaid yn Rhydderchaidd
43 nwyfgel eithr Howel athrawaidd Ganon
44 naf Mon gloyw Ddeon arglwyddiaidd
Dafydd ap Gwilym ai cant