I Rys ap Gwgan i ddymuno arno dynnu Eiddig gyd ag ef i fyned i
Ffraingc i ryfela.
1 Ef aeth heddiw yn ddiwael
2 gyd a Rhys i gadw'r hael
3 O frodyr ffydd Morfudd maeth
4 A cheraint mau awch hiraeth
5 I mi'n ffrom ymwrdd a Ffranc
6 or dea Mair a'i diangc
7 Bryhyrion weilch beilch bylchgrwydr
8 breniolion brodorion brwydr
9 Mab Gwgon mae bygegyr
10 gyd â chwi o gedwch wyr
11 Yn elyn dy anwylyd
12 i fardd bun ac i feirdd byd.
13 Vn llygad cymyniad cawdd
14 ac vn-clust yw ar gan-clawdd
15 A chorn celwydd-dwyll pwyll pwl
16 A chosbxwr bun a'i chasbwl.
17 [219r] Pa sawl gwaith rhag trym-waith trwch
18 y ffoais gynt coffewch
19 Rhagddau 'r cawell yscaw cau
20 ai dylwyth fel medelau
21 Bid iddaw yn ei law lwyth
22 o faw diawl ef a'i dylwyth
23 Od ai enaid baid banw
24 i'r lwyd-long wyllt erlid-lanw
25 llonydd ni hir gydfydd hi
26 llun ei hwyl yn llawn heli
27 Gwisc ei phen fo'r ffrwd wenn wawl
28 gwascwynes y gwisc ganawl.
29 Ni cherdda ni hwylia hi
30 trychan-ddyn ar trwch ynddi.
31 Gwthier ef a'i gwthr afangc
32 dros y bwrdd ar draws y bangc
33 Y donn hael adain heli
34 Y tâl a ddylwn i ti
37 Seithffrwd aig tramwy-wraig trai
38 Saig naw-tonn a'i sugn attai.
39 O donn i donn edn sugn-draeth
40 Od a i Ffraingc y du ffraeth.
41 Y sawl anghen-fagl y sydd
42 hwynyn a fo ei ddihenydd
43 Meddyliwch graff braff broffes
44 Am ei las gwnewch i mi les
45 Ac na edwch y cwch cau
46 i'm deol am Em deau
47 Tithiau albryssi-wr tuthia
48 tafledydd defnydd-wydd da
51 Brath y lleidr drwy ei neidrwydd
52 bythawr ei far byth gar gwydd
53 Trawana na fetha fath
54 traidd o'r albrs trwyddo 'r eil-brath
55 Adnebydd seithydd syth-arf
56 Sythion blew-feinion ei farf
49 A thafl ar brenn gwarthafl-fyrr
50 a saeth bythorud o Syrr
57 [219v] ddiddan i'm ei drigian draw
58 deu-ddec anhawddfyd iddaw
59 Diddestl fardd ffannugl grug-lwyn
60 Dydd a fu nid oedd ef fwyn
61 Diddig fydd bardd hardd o hynn
62 Diddel adref iw dyddyn
63 Ffwyn eiddig cloedig clod
64 ffriw ddifwyn o x phraw ddyfod
65 wrth wynn esgar Lafar lef
66 y du leidr y dêl adref
Dd' ap Gwilym.