{ko: ir brawd Llwyd} (sic)
1 Ef aeth heddiw yn ddiwael
2 gyd a Rhes i gadw'r hael
3 o vrodur fydd a rhai maeth
4 a cheraint mav awch hiraeth
5 {ymy i ymwrdd i frainc
6 or deau Mair ai diainc}
7 bryhyrion weilch beilch bylchgrwydr
8 breinolion brodorion brwydr
9 mab gogan may begegyr
10 gyd achwi o gedwch wyr
11 yn elyn dianwylyd
12 i vardd bvn ag i veirdd byd
13 vn llygad cymyniad cawdd
14 ag vnclust yw ar ganclawdd
15 a chorn celwydd bwyll pwyll pwl
16 a chosbwr bvn ai chasbwl
17 pasawl gwaith rhac trymvaith trwch
18 y foîs gynt cofewch
19 rhagddaw'r cawell ysgaw cav
20 ai duylwyth val medelav
21 [280] bid iddaw yn i law lwyth
22 o vaw diawl ef ai duylwyth
23 o da ai enaid baid banw
24 ir lwydlong wyllt erlidlanw
25 llywydd ni hir gydvydd hi
26 Llvn i hwyl yn llawn heli
27 gwisg i phen vo'r frwd wen wawl
28 gwsgwynes y gwaisg anawl
29 ni cherdda ni hwylia hi
30 trychanddyn ar trwch ynddi
31 gwthier ef gwthwr avanc
32 dros y bwrdd ar draws y banc
33 y don hael adain heli
34 y tâl a ddylwn iti
37 seithfrwd aic trawanwraig trai
38 saig nowton ai sugn atai
39 o don i don edn sugndraeth
40 o da i frainc y du fraeth
41 y sawl anghenvagl y sydd
42 hoynyn vo i ddihenydd
43 meddyliwch graf braf brofess
44 am i ladd gwnewch ymy les
45 ag na edwch y cwch cau
46 i'm deol am em deau
47 tithau albrysiwr tuthia
48 tafledydd deunyddwydd da
51 brath y lleidr drwy i neidrwydd
52 bethawr iladd byth gar gwydd
53 trawana na vetha vath
54 traidd ar albrys trwyddo'r eilbrath
55 adnebydd seuthudd sytharf
56 sythion blew veinion i varf
49 a thafl ar pren gwarthaflvyrh
50 a saeth bethorost o syrh
57 dyddan ym i drigian draw
58 deuddeg anhawddvyd iddaw
59 diddestl vardd fanvgl gruglwyn
60 dydd a fu nid oed ef fwyn
61 diddig vydd bardd hardd ohyn
62 diddel adref yw dyddyn
63 fwyn eiddig cloedig clod
64 friw ddiwyn ofraw ddywod
65 wrth wyn nis car lavar lef
66 y du leidr y del adref
Dauid ap Gwilim