â â â Amau ar Gam
1â â â 'Morfudd weddaidd anghywir,
2â â â Gofwy gwawd, gwae fi, ai gwir,
3â â â Eto o nwyf, iti, fy nyn,
4â â â Diofrydu dy frawdyn,
5â â â Yr hwn, ni wn ei enni,
6â â â Nith Eigr deg, ni'th ddigar di,
7â â â A gadael, i gael galar,
8â â â O'th gof y truan a'th gâr,
9â â â O serch ar ormodd o sôn,
10â â â Ïau neidr, ai anudon?'
11â â â 'Na wir, tyngu ni weryd,
12â â â Ni bu ambrydu i'm bryd.
13â â â Myn y Gwr mewn cyflwr cawdd,
14â â â Ddafydd, a ddioddefawdd,
15â â â Mwy caraf ôl mewn dolgoed,
16â â â Dibrudd drum, dy ebrwydd droed
17â â â No'm godlawd wr priawd prudd
18â â â Neu a ddeiryd i'w ddeurudd.
19â â â Ef a ddaw byd, bryd brydu,
20â â â Ar wr dig gwedy'r eiry du.'
21â â â 'Dugost lid a gwrid i'm grudd,
22â â â Dyn fawrfalch, da iawn, Forfudd!
23â â â Ni rygeisiwn argyswr,
24â â â Na chydfydd i'th ddydd â'th wr.
25â â â Na phâr i Eiddig ddig ddu,
26â â â Lin hwyad, lawenhäu.
27â â â Ni chaffwyf dda gan Dduw fry
28â â â O chai 'modd, o chymyddy.'