Amau ar Gam
'Morfudd brydferth dwyllodrus,
[dyma] gerydd ar gân, gwae fi, ai gwir,
eto oherwydd angerdd, iti, fy merch,
4 ymwrthod â'th frawd druan,
yr hwn, ni allaf ddygymod â hyn,
nith Eigr deg, nad yw'n dy ddirmygu di,
a gadael, i gael galar,
8 o'th gof y truan sy'n dy garu,
oblegid serch at ormod o siarad,
gïau neidr, ai ynteu llw gau yw hynny?'
'Nid gwir mo hynny, ni thâl tyngu,
12 ni fu ymwadu yn fy meddwl.
Myn y Gwr mewn cyflwr trallodus,
Dafydd, a ddioddefodd,
caraf yn fwy, ffurf lawen,
16 ôl dy droed chwim mewn coed dôl
na'm gwr priod salw, digalon
na dim a berthyn i'w ddeurudd ef.
Fe ddaw helynt, llunio bwriad [a wnawn],
20 i ran y gwr dig wedi'r eira diflas.'
'Dygaist angerdd a gwrid i'm grudd,
ferch falch iawn, da iawn, Morfudd!
Ni cheisiwn beri dychryn iti,
24 paid ag aros gyda dy wr weddill dy ddyddiau.
Paid â pheri i Eiddig ddig, anfad,
o linach hwyaden, lawenhau.
Na fydded imi dderbyn lles gan Dduw fry
28 os rhyngi fy modd, os gwnei di gymodi.'