â â â Marwnad Angharad
1â â â Didyr deigr, difyr adafael, - o'm drem
2â â â Am drymed i'm cof gwael
3â â â Dodiad hoyw Angharad hael
4â â â Dan ddaear, duon ddwyael.
5â â â Aele yw nad byw buail - win aeddfed,
6â â â Awenyddfardd adfail;
7â â â Alaf ar waesaf wiwsail,
8â â â Aelaw fu o'i hoywlaw hail.
9â â â Heilwin fu, medd llu, lleufer - cain Indeg,
10â â â Cyn undydd breuolder;
11â â â Hoedl dangnef neb ond nef Nêr,
12â â â Hudol yw hoedl i lawer.
13â â â Llawer bron am hon ym Mhennardd - a hyllt,
14â â â Ail Esyllt wyl
lwysardd;
15â â â Llawer cyfarf galarfardd,
16â â â Llwyr wae, ni chwarae, ni chwardd.
17â â â Ni chwardd cywirfardd cyweirfad, - cwyn uthr,
18â â â Can eithyw Angharad,
19â â â Ni dau o'm bron, neud ym brad,
20â â â Ne llif geirw, naw llef girad.
21â â â Rhy irad, ddygiad ddigudd, - fu orfod,
22â â â Ddrem fwyarfalch
wrmrudd,
23â â â Rhieinaidd ferch, rhannodd fudd,
24â â â Rhwymo derw rhôm a'i deurudd.
25â â â Deuruddlas fain was wyf yn wael - can gwyn
26â â â Cain gannwyll yn
urael,
27â â â Darfod dyfod, dwfn ddeigrgael,
28â â â Derfyn hir diweirfun hael.
29â â â Haelaf, digrifaf goreufun - yng Nghaer
30â â â Oedd Angharad wanllun,
31â â â Hoen ffysg, da ddysg, nid oedd un,
32â â â Huan wybr, â hi nebun.
33â â â Pa un â'm aur fun mor fyr - o'i hoedlddydd?
34â â â Aml hidlddeigr a'm tragyr.
35â â â Pwyll rhadfaith, pall iradfyr,
36â â â Pefr nith haul, py fron ni thyr?
37â â â Gorhoffter eurner, arnad - Dduw Dofydd
38â â â Y mae fy ngherydd am Angharad,
39â â â Gyflawned y rhoist gyfluniad - diwael
40â â â O ddawn, gyfiawn gael, Wr hael, a
rhad,
41â â â Gan yt fynnu, bu bwyllwastad, - ei dwyn
42â â â Yn rhwyf ebrwydd frwyn yn rhefbridd
frad.
43â â â Gorugost rydost rediad - ei hoedlddydd,
44â â â Gwyr ei charennydd â Dofydd
Dad.
45â â â Gwasg chwyrn ar f'esgyrn, eirfysgiad - bu ddig,
46â â â Gorwyr i Gynwrig, gorf brig bragad.
47â â â Goroen cywiwgroen Eigr, un gariad - Uthr,
48â â â Goruthr yn un rhuthr fu'n anrheithiad.
49â â â Gorne bron hoywdon ehediad - gwyndraeth,
50â â â Gwyr ei brodyr maeth alaeth
eiliad,
51â â â Gwrm ael yn urael, un irad - nad byw,
52â â â Gwae ryw Eigr unllyw o'r gaer winllad.
53â â â Gofalus fronllech, gafaeliad - oer gawdd,
54â â â Ymy a neidiawdd o'i mynediad.
55â â â Gwrygiant ardduniant eurddoniad - facwy,
56â â â Gwreigaidd olywy, gwragedd leuad,
57â â â Gweddeiddwar gymar geimiad - yng ngarthan,
58â â â Gwayw awchdan Ieuan, cyflafan cad,
59â â â Gwaedgoel saffwy rhwy, rhwym gwlad - a'i gafael,
60â â â Gwawdgael, llwydgun hael, llydw
gynheiliad,
61â â â Gwrthwyneb galon, gartheiniad - gytbar,
62â â â Gwrddfar, gwingar ddâr, gwengerdd
uriad.
63â â â Gwaisg y'm clwyfawdd cawdd, coddiad - y'i galwer,
64â â â Gweler ar lawer galar liwiad.
65â â â Gwenynen addien a wyddiad - ei dawn,
66â â â Gwawn Geredigiawn, garw ei dygiad,
67â â â Goleuddyn â'i hyn o had - bonheddfaith,
68â â â Goluddiai wagiaith, gwyl
ddiwygiad.
69â â â Gwedy hoedlddwyn gwyn wyf geiniad - bronddellt,
70â â â Gwedd eiry blisg gwisgwellt, gwawr Fuellt
fad,
71â â â Gwenfun ddiwael, hael heiliad - yng nghyfedd,
72â â â Gwinfwrdd a berthedd, gwynfeirdd
borthiad.
73â â â Gwayw o'i chof drwof drawad - a'm gwarchae,
74â â â Gwae, em oleugae, y mau lygad!
75â â â Gwedd, dig argywedd, deigr gawad - a'i gwlych,
76â â â Gwyrdd fy ngrudd a chrych, fawrnych
farwnad.
77â â â Gwenwyn ym ei chwyn, ni chad - o'm ystlys,
78â â â Gwanas gywirlys, gwn ysgarlad.
79â â â Gwaith drwg i olwg fyddai wyliad - caeth,
80â â â Gwaeth, cyfyng hiraeth, cof Angharad.