{ko i Vorfydd}
1 Morvudd weddaidd anghywir
2 govwy gwawd gwae vi ai gwir
3 eto o nwyf iti vynyn
4 divrodi'n gwbl dy vrowd ddyn
5 yr hwn a wn oi eni
6 nith eigr deg nith ddigar di
7 a gadael i gael galar
8 oth gof y truan ath gar
11 na wir tyngaf ni weryd
12 ni bu am brydu i'm bryd
13 myn y gwr nid cyflwr cowdd
14 Ddauydd a ddioddevawdd
15 mwy carwn ol mewn dolgoed
16 dibrudd drin dy ebrwydd droed
17 no'm godlawd wr priawd prudd
18 neu a ddeiryd oi ddeurudd
21 ef a ddaw byd bryd brydu
22 i wr doeth wedy eiry du
19 dugost lid a gwrid i'm grudd
20 dyn vowrvalch da iawn Vorvudd
23 [374] ni rygeisiwn argyswr
24 na chydvydd ith ddydd ath wr
25 na phar i eiddig ddig ddu
26 lin hwyad Lawenhaü
27 na chaffawy dda gan Dduw vry
28 o chai 'modd o chymyddy
Dauid ap Gwilim